Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Partneriaethau - Dydd Mercher, 20fed Mawrth, 2024 5.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Pimm fuddiant oherwydd cysylltiadau sy'n ymwneud ag eitemau 5 a 6 ar yr agenda.

 

Datganodd aelodau'r Pwyllgor fuddiannau mewn eitem 4 gan ei bod yn ymwneud â swyddi llywodraethwyr ar fyrddau ysgolion yng Nghasnewydd.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 125 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cywir a phriodol.

 

3.

Gwasanaeth Cyflawni Addysg - Gwerth am Arian (Cam 1 - Rhagfyr 2023) pdf icon PDF 165 KB

a)    Cyflwyniad gan Swyddog

b)    Trafodaeth a chwestiynau i’r Pwyllgor

c)    Casgliad ac argymhellion 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-          Sarah Morgan (Pennaeth Addysg)

-          Geraint Willington (Cyfarwyddwr y GCA: Adnoddau, Busnes a Llywodraethu)

-          Marc Belli (Prif Bartner Gwella Ysgolion y GCA)

-          Ed Pryce (Cyfarwyddwr Cynorthwyol y GCA: Polisi a Strategaeth)

 

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg yr adroddiad. Rhoddodd Cyfarwyddwr y GCA: Adnoddau, Busnes a Llywodraethu a Chyfarwyddwr Cynorthwyol y GCA: Polisi a Strategaeth drosolwg o’r adroddiad.  

 

Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol:

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor am bwysigrwydd gwaelodliniau ar gyfer mesur gwelliant ysgolion. Cynghorodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y GCA yn erbyn sgorio ysgolion ond yn ei farn ef roedd gwaelodliniau’n angenrheidiol. Pwysleisiodd bwyll wrth osod gwaelodliniau, gan ganolbwyntio ar weithio gydag ysgolion dros ddulliau h?n o sgorio ysgolion. Gofynnodd y Pwyllgor pam mai ychydig o ysgolion oedd wedi gosod gwaelodliniau. Eglurwyd mai’r GCA, nid ysgolion, a oedd yn gosod gwaelodliniau drosto ei hun i dynnu sylw at ysgolion a oedd angen cymorth. 

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor am rôl y GCA. Dywedwyd wrtho fod y GCA yn gweithio gyda sampl ranbarthol o 40 ysgol ond nid oedd yn gwybod pa ysgolion a oedd yn rhan o'r sampl. Ceisiodd y Pwyllgor ddeall mewnbwn y GCA i ddewis ysgolion y sampl a maint y sampl. Esboniodd Cyfarwyddwr y GCA fod ymgynghorydd annibynnol wedi penderfynu mai 30 oedd maint lleiaf y sampl, gyda 40 yn uwch na'r isafswm yn seiliedig ar gyfyngiadau. Esboniodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y GCA ymhellach fod cyfyngu ar y sampl wedi helpu i gynnal gwell parhad yng ngwaith y GCA. Gofynnodd y Pwyllgor pam nad oedd y GCA yn ymwybodol o hunaniaethau ysgolion y sampl. Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y GCA fod hyn yn lleihau rhagfarn tuag at yr ysgolion hynny.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y GCA yn effeithio ar Gynlluniau Datblygu Ysgolion. Nododd Prif Bartner Gwella Ysgolion y GCA fod ysgolion yn gosod eu cynlluniau eu hunain, gyda’r GCA yn cefnogi eu hanghenion. Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y GCA fod hyn yn seiliedig ar y sampl 40 ysgol, nid pob ysgol. Esboniodd y Pennaeth Addysg fod ysgolion yn gwerthuso eu hunain, gyda Swyddogion yn helpu i ddadansoddi ffocws cynlluniau datblygu ar nodau ac amcanion.

 

  • Nododd y Pwyllgor y bwlch ariannu cynyddol ar gyfer y GCA a gofynnodd a fyddai myfyrwyr yn cael blaenoriaeth gydag arian ychwanegol. Esboniodd Cyfarwyddwr y GCA: Adnoddau, Busnes a Llywodraethu fod y GCA yn ymdrechu i weithio o fewn yr arian a roddir, gan sicrhau bod arian yn mynd i'r lle iawn.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor a fyddai’r GCA yn defnyddio technoleg fel deallusrwydd artiffisial (DA). Nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y GCA nad yw’r Gwasanaeth yn gweithredu newidiadau technoleg mewn ysgolion yn uniongyrchol, gan mai'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am hyn, ond mae’n annog ysgolion i hwyluso'r defnydd ohoni. Mae tîm mewnol y GCA yn defnyddio technoleg ac mae hyfforddiant yn cael ei greu i fynd i'r afael ag ofnau ysgolion ynghylch DA. Dywedodd Prif Bartner Gwella Ysgolion y GCA y dylid ymgorffori DA, ddim ei ddefnyddio fel amnewidiad.

 

 

4.

Asesiad o Anghenion Strategol Casnewydd Ddiogelach 2024-2029 pdf icon PDF 137 KB

a)    Cyflwyniad gan Swyddog

b)    Trafodaeth a chwestiynau i’r Pwyllgor

c)    Casgliad ac argymhellion 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

-          Rhys Cornwall (Cyfarwyddwr Strategol – Trawsnewid a Chorfforaethol)

-          Janice Dent (Rheolwr Polisi a Phartneriaeth)

-          Helen Gordon (Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth)

-          Sam Slater (Pennaeth Strategaeth, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent)

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol yr adroddiad i’r Pwyllgor. Rhoddodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth a’r Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth drosolwg o'r adroddiad.

 

Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol:

  • Canmolodd y Pwyllgor y ffaith bod yr adroddiad wedi’i greu mewn gwahanol ieithoedd a gofynnodd sut y cysylltwyd â grwpiau cymunedol i gael ymatebion, gan fod nifer yr ymatebion yn isel mewn ardaloedd â chymunedau amrywiol. Nododd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth iddynt ymgynghori â Chysylltwyr Cymunedol a grwpiau tebyg ond nad oeddent yn si?r pam fod nifer y bobl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn isel. Dywedon nhw fod ymgynghoriad wyneb yn wyneb wedi'i sefydlu yn y Ganolfan Gap. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu mwy o ddata ansoddol, gyda'r mwyafrif yn teimlo'n ddiogel yng Nghasnewydd. Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth fod pobl yn debygol o deimlo'n ddiogel oherwydd tai diogel ac mae teimlo'n ddiogel yn y gymuned yn arwain at ymfalchïo ynddi.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor am ddefnyddio dulliau eraill i gael cyfranogiad ehangach gan boblogaeth amrywiol Casnewydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol fod arferion gorau o ymgynghoriadau eraill yn cael eu harchwilio i ennyn mwy o ymatebion. Nododd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth y gallent ddysgu o gyfranogiad sefydliadau partner gyda grwpiau cymunedol, fel Heddlu Gwent. Nododd hefyd fater gorflinder o ran ymgynghoriadau a'r angen i fod yn ddoethach wrth ymgynghori â grwpiau cymunedol.

 

Canmolodd y Pwyllgor ansawdd yr adroddiad ond cafodd ei synnu gan ddosbarthiad poblogaeth Casnewydd. Gofynnodd sut roedd ardaloedd gwledig â phoblogaethau tenau yn teimlo am ddiogelwch a gofynnodd am sicrwydd nad oedd poblogaethau gwledig yn cael eu hanghofio. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod y lledaeniadau poblogaeth amrywiol yn wynebu heriau gwahanol o ran trosedd ond bod y Cyngor yn gweithio gyda Heddlu Gwent ar yr heriau hyn. Gofynnodd y Pwyllgor am ddadansoddiad o'r ymatebion yn ôl lleoliad a chytunodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth i'w roi.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor a gysylltwyd â chymdeithasau tai i gael adborth. Esboniodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth fod gwaith partneriaeth wedi digwydd gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ond bod angen adeiladu ar hyn, er na chodwyd unrhyw faterion penodol.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor sut y disgyblodd cymdeithasau tai ymddygiad gwrthgymdeithasol. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod partneriaid yn cael eu defnyddio'n dactegol ar gyfer materion landlord cymdeithasol cofrestredig penodol, ond ni chasglwyd y wybodaeth honno ar gyfer yr adroddiad hwn.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor sut mae gwybodaeth adroddiadau’n bwydo i broffiliau lles cymunedol. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaethau y byddai'r Hyb Gwybodaeth yn rhannu gwybodaeth gyda phartneriaid.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r swyddogion am fod yn bresennol.

 

Casgliadau

-          Canmolodd y Pwyllgor gyflwyniad a hygyrchedd yr adroddiad. Yn ogystal, canmolodd yr ymdrech i ddosbarthu'r adroddiad mewn sawl iaith, gan gydnabod pwysigrwydd cyrraedd cynulleidfa amrywiol a sicrhau cynwysoldeb mewn cyfathrebu.

 

-          Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd cydnabod  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Dyletswydd Trais Difrifol: Strategaeth ac Asesiad o Anghenion Strategol Gwent pdf icon PDF 137 KB

a)    Cyflwyniad gan Swyddog

b)    Trafodaeth a chwestiynau i’r Pwyllgor

c)    Casgliad ac argymhellion 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-          Rhys Cornwall (Cyfarwyddwr Strategol – Trawsnewid a Chorfforaethol)

-          Janice Dent (Rheolwr Polisi a Phartneriaeth)

-          Helen Gordon (Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth)

-          Sam Slater (Pennaeth Strategaeth, Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent)

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol yr adroddiad i’r Pwyllgor. Yna rhoddodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth, yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth a Phennaeth Strategaeth Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent drosolwg o'r adroddiad.

 

Gofynnodd y Pwyllgor y canlynol:

 

  • Nododd y Pwyllgor anghysondeb ar dudalen 179 yr adroddiad ynghylch ystadegau "Troseddau sy'n gysylltiedig ag Arfau" a "Throseddau Trais a Rhywiol," a oedd yn ymddangos fel pe baent yn dangos yr un ffigurau ar gyfer Casnewydd a Gwent gyfan. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth y byddai hyn yn cael ei gywiro.

 

  • Tynnodd y Pwyllgor sylw at bwysigrwydd llinellau cyffuriau a'r defnydd o arfau llafnog amgen mewn troseddau. Gofynnodd a oedd y rhain wedi'u cynnwys yn y data troseddau cyllell a gwn. Nododd Pennaeth Strategaeth Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent fod yr holl arfau wedi'u cynnwys yn yr ystadegau troseddau cyllell a gwn.

 

  • Nododd y Pwyllgor ostyngiad yn nifer y troseddwyr yn mynd i ysbytai oherwydd anafiadau troseddol. Tynnodd Pennaeth Strategaeth Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent at y ffaith, er bod y data’n dangos gostyngiad, nad yw'n nodi'r achos, a fyddai'n cael ei archwilio ymhellach.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor a oedd yr adroddiad yn sefyll ar ei ben ei hun neu a oedd yn gysylltiedig â phroffiliau cymunedol. Nododd Pennaeth Strategaeth Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent ei fod yn bodloni gofynion y Swyddfa Gartref, ond bod yr adroddiad yn bwydo cynllunio lleol.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor am ddata fesul ward ac i'r heriau sy'n wynebu ymgynghori, fel anhysbysrwydd, gael eu hamlygu. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol, gan fod yr adroddiad yn ei fabandod, fod lle i dyfu. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei ddwyn yn ôl ato. Tynnodd y Cyfarwyddwr Strategol at y ffaith hefyd fod rhai o effeithiau byd go iawn y data yn gymharol fach o'u cymharu â'u canrannau. Esboniodd Pennaeth Strategaeth Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent fod ymgysylltu lleol yn flaenoriaeth allweddol.

 

  • Mynegwyd pryder gan y Pwyllgor ynghylch realiti cyfraddau troseddau cynyddol. Mynegodd y Pwyllgor bryder hefyd ynghylch y cynnydd mewn troseddau rhywiol yn erbyn menywod. Tynnodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth sylw at y ffaith bod angen ystyried mater troseddau yn erbyn menywod yn fanylach.

 

  • Tynnodd y Pwyllgor sylw at effaith gadarnhaol mwy o fenywod yn rhoi gwybod am droseddau yr oeddent wedi'u profi. Cytunodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth gydag arsylw’r Pwyllgor.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor a oedd troseddau casineb yn cynyddu ac a oedd grwpiau ethnig penodol yn cael eu targedu gan gyflawnwyr ond hefyd gan orfodi'r gyfraith. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod hwn yn bwynt pwysig, gan dynnu sylw at ei bwysigrwydd o fewn yr adroddiadau gwrthderfysgaeth a chymunedol.

 

  • Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad ar y term "parth diogelwch cymunedol." Nododd y Cyfarwyddwr Strategol ei fod yn cael sylw dan fynegai Llywodraeth Cymru ond y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 134 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Plan (Appendix 2)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

-          Neil Barnett (Ymgynghorydd Craffu)

 

a)   Diweddariad ar y Flaenraglen Waith (Atodiad 1)

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu’r Flaenraglen Waith, a dywedodd wrth y Pwyllgor am y pynciau oedd i’w trafod yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor:

 

Dydd Mercher 24 Ebrill 2024, yr eitemau ar yr agenda;

  • Partneriaeth Wastesavers
  • Diweddariad ar Wasanaethau Maethu a Mabwysiadu

 

b)    Cynllun Camau Gweithredu (Atodiad 2)

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Craffu ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y daflen camau gweithredu a dywedodd fod pob cam gweithredu yn gyfredol.

 

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 7.02pm