Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Mercher, 16eg Mehefin, 2021 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Anne Jenkins, Arweinydd Tîm Llywodraethu  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Cynghorydd Rahman yng nghyswllt Eitem 7.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 123 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf dyddiedig 5 Mai fel rhai cywir.

 

4.

Cynnig Ad-drefnu Ysgolion i Ehangu Ysgol Basaleg pdf icon PDF 151 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y Prif Swyddog Addysg a gyflwynodd yr adroddiad.

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Addysg y Cabinet mai Ysgol Basaleg oedd yr ysgol uwchradd fwyaf poblogaidd yng Nghasnewydd a’i bod yn gwasanaethu dalgylch eang oedd yn dal i dyfu oherwydd datblygiadau tai newydd, adfywio a buddsoddi yn yr ardal leol.

 

Gwnaed y cynnig yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru. O ganlyniad i hyn, cafwyd cyfnod ymgynghori ffurfiol o chwe wythnos rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2020. Fel y gellid disgwyl, cafwyd llawer iawn o ohebiaeth, sy’n cael ei grybwyll yn Adroddiad yr Ymgynghori, a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor ac a rannwyd gyda rhanddeiliaid ym mis Ionawr eleni.

 

Yn dilyn ystyried Adroddiad yr Ymgynghori, yr oedd Aelodau’r Cabinet o’r farn y dylid bwrw ymlaen â’r cynnig,  ac felly cyhoeddwyd hysbysiad statudol ym Mawrth eleni am y cyfnod angenrheidiol o 28 diwrnod. Y cyfnod hwn oedd pryd y gallai rhanddeiliaid nodi gwrthwynebiadau i’r cynnig. Lle nad oedd gwrthwynebiadau, gallai Aelodau’r Cabinet gymryd y penderfyniad terfynol ar y cynnig. Fodd bynnag, petai gwrthwynebiadau, yr oedd y ddeddfwriaeth yn mynnu y dylai Panel Pennu Lleol ystyried yr holl dystiolaeth oedd ar gael cyn penderfynu. Yn yr achos hwn, derbyniwyd dau wrthwynebiad ffurfiol a dau bryder pellach, ac felly yr oedd gofyn i’r Cabinet, gan weithredu fel y Panel Pennu Lleol, ystyried y penderfyniad terfynol.

 

Crynhowyd y gwahanol resymau dros wrthwynebu yn yr adroddiad ond cyfeiriwyd atynt hefyd yn fanwl yn yr Adroddiad Gwrthwynebu. Nodwyd fod mwyafrif y rhesymau dros wrthwynebu wedi eu codi hefyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol, a chyfeiriwyd atynt ac ymateb iddynt yn Adroddiad yr Ymgynghori.

 

Yr oedd y buddsoddiad arfaethedig yn Ysgol Basaleg yn bosib trwy Fand B Rhaglen Ysgolion yr  21ain Ganrif y Cyngor, ac yn cael ei gyllido felly ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, neilltuwyd swm o £28m i’r prosiect, er y nodwyd, gan nad oedd y broses dendro wedi cwblhau, fod y cynllun cost diweddaraf yn awgrymu y byddai angen cyfanswm buddsoddiad o ryw £31m. Yr oedd yn hollol bosib felly y byddai angen adolygu rhaglen Band B yn gyffredinol dros y misoedd nesaf, pan fyddai mwy o sicrwydd am gostau prosiectau penodol.

 

Byddai’rcynnig a’r buddsoddiad gyda’i gilydd yn gyfle gwych i wella a chynyddu’r ddarpariaeth i ddysgwyr yn un o’n hysgolion uwchradd mwyaf llwyddiannus, a gwneud hyn yn amgylchedd dysgu’r 21ain Ganrif mewn gwirionedd.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyodd y Cabinet y cynnig ad-drefnu ysgolion igynyddu’r lle yn gyffredinol yn Ysgol Basaleg o 1747 i 2050 o fis Medi 2023 ymlaen”.

 

5.

Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol (Ch4) pdf icon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, sef cyfoesiad o Gofrestr Risg Gorfforaethol yCyngor am ddiwedd Chwarter Pedwar (31 Mawrth 2021).

 

Gofynnwydi aelodau ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi’r newidiadau i Risgiau Corfforaethol y Cyngor.

 

Mae Polisi Rheoli Risg a Chofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor yn galluogi’r weinyddiaeth hon a’i swyddogion i fod yn effeithiol wrth nodi, rheoli a monitro’r risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-22) a chyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

Byddai’radroddiad risg Chwarter Tri yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor ar 27 Mai i adolygu prosesau rheoli risg y Cyngor a’i drefniadau llywodraethiant.

 

Arddiwedd chwarter pedwar, yr oedd gan  y Cyngor 46 risg wedi eu cofnodi ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor.

 

Cafodd y risgiau hynny a bennwyd fel rhai’r mwyaf arwyddocaol o ran cyflwyno Cynllun Corfforaethol y Cyngor a’i wasanaethau eu codi i Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor er mwyn eu monitro. 

Arddiwedd chwarter pedwar, cofnodwyd 18 risg ar y Gofrestr Risg Corfforaethol:

·        UnarddegRisg Ddifrifol (15 i 25);

·        PedwarRisg Fawr (7 i 14);

·        Dwy Risg Ganolig (4 i 6); ac

·        Un Risg Isel (1 i 3).

Yn chwarter pedwar, gwelodd y Gofrestr Risg Gorfforaethol hefyd ddwy sgôr risg yn cynyddu, tair yn gostwng ac 13 yn aros yr un fath ag yn chwarter tri.

 

Arhyn o bryd, yr oedd y Cabinet yn cael adroddiadau misol am faterion yn ymwneud  â Brexit, a mesurau lliniaru.  

 

Gostyngodd y sgôr risg o 18 i 12, gan nad oedd gwasanaethau’r Cyngor wedi nodi effeithiau uniongyrchol ar eu cyflenwyr a’u cyllid ers y cytundeb masnach. 

 

Foddbynnag, fel yr adroddir yn adroddiad Brexit, yr oedd Statws Sefydlu yr UE yn dal yn faes pryder i gymunedau’r ddinas oherwydd y terfyn amser o 30 Mehefin. 

 

Yr oedd ansicrwydd am nifer y dinasyddion o’r UE a allasai fod wedi colli’r terfyn amser i wneud cais am y cynllun a/neu a fu’n aflwyddiannus yn eu ceisiadau. 

 

Gallasaihyn gael effaith ar y Cyngor gan y gall trigolion fethu cyrchu gwasanaethau cyhoeddus a bydd angen cefnogaeth ychwanegol. 

 

Gostyngoddrisg Rheolaeth Ariannol y flwyddyn o  chwech i dri, oherwydd yr alldro’r Cyngor a ragwelwyd am y flwyddyn ariannol a aeth heibio, oedd yn dangos cryn warged.

 

Byddidyn cadw golwg fanwl ar y risg hon yn chwarteri un a dau i weld a fyddai unrhyw bryderon/pwysau wrth i’r ddinas weld llacio graddol ar y cyfyngiadau.

 

Gostyngoddsgôr risg pandemig Covid-19 o 25 i 20 oherwydd llwyddiant cyflwyno’r brechiad a llacio cyfyngiadau clo, a’i gwnaeth yn bosib ail-agor gwasanaethau megis cyswllt wyneb yn wyneb.

 

Parhaoddgwasanaethau rheng-flaen y Cyngor i redeg fel arfer. Er hynny, yr oedd rhai clystyrau yn parhau yn y gymuned, oedd yn cael eu rheoli trwy’r timau Profi,  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg pdf icon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan hysbysu’r Cabinet  fod gofyn i’r cyngor adrodd yn flynyddol ar eu cynnydd o ran cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg dan Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011. Yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â phumed blwyddyn ei weithredu, wedi i’r cyngor dderbyn y rhan fwyaf o Safonau’r Iaith Gymraeg  ym Mawrth 2016.

 

Yr oedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o gynnydd y Cyngor o ran cwrdd â Safonau’r Iaith Gymraeg, ac yn cynnwys gwybodaeth y mae’r gyfraith yn mynnu sydd i’w gyhoeddi bob blwyddyn, crynodeb o lwyddiannau allweddol yn ystod y flwyddyn, a meysydd blaenoriaeth am waith at y dyfodol.

 

Aeth yr Arweinydd drwy lwyddiannau’r flwyddyn, oedd yn cynnwys:

 

§  Gwaith cadarnhaol gan swyddog Hybu’r Gymraeg y cyngor, yn canolbwyntio ar ymwneud a rhanddeiliaid allweddol yn y gymuned a darparu cefnogaeth i ysgolion a phartneriaid yn ystod y pandemig.

§  Hyrwyddodyddiadau allweddol trwy gydol y flwyddyn, yn fewnol ac ymysg cymunedau, a noddi G?yl Newydd rithiol.

§  SefydluGweithgor Cynrychiolwyr a chynllun gweithredu sy’n cynnwys canoli ar gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ledled y sefydliad.

§  Sefydlu is-gr?p Iaith Gymraeg y Bwrdd Sgiliau Cywir, sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo agwedd gyson at ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ar draws y ddinas a chyda phartneriaid allweddol y BGC.

§  Adolygufframwaith rheoli perfformiad y cyngor, fel bod modd monitro cydymffurfio â’r safonau yn fwy effeithiol ar lefel maes gwasanaeth a sefydliadol.

§  Comisiynunifer o fideos hyfforddi yn Gymraeg wedi eu hanimeiddio, i’r holl staff ddilyn, fyddai ar gael yr haf hwn.

 

Yr oedd yr adroddiad hefyd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf, fyddai’n cynnwys:

 

§  Gweithiogyda’n cymunedau ffoaduriaid, mudwyr a lleiafrifoedd ethnig i wreiddio’r Gymraeg yn well fel rhan o hunaniaeth a rennir ledled y ddinas, yn enwedig yng nghyd-destun datblygu ein pedwaredd ysgol cyfrwng-Cymraeg.

§  Gwella a datblygu ein polisi Sgiliau Iaith Gymraeg, gan gynnwys cofnodi a monitro sgiliau’r Gymraeg yn y gweithle, a gwneud gwell defnydd o’r data hwn fel sail i gynllunio strategol.

§  Ymwneud ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a chymunedau fel sail i ddatblygu ein Strategaeth Iaith Gymraeg 5-mlynedd newydd.

§  Mabwysiadunifer o egwyddorion Cymraeg Clir i annog mwy o staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ac Adnoddau sydd hefyd yn arwain ar Gydraddoldeb a’r Iaith Gymraeg i ddweud gair words.

 

Yr oedd yr Aelod Cabinet yn falch o weld fod y cyngor yn dal i lwyddo i wneud cynnydd cadarnhaol yn erbyn ein hymrwymiadau i’r Gymraeg, er i’r flwyddyn hon fod yn un heriol. O edrych ymlaen at eleni, yr oedd yr Aelod Cabinet yn hyderus y byddai datblygu ein pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg yn parhau i gryfhau gwaith yn y maes hwn ac yn dwyn cyfleoedd newydd yn y ddinas  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cronfa Adnewyddu Cymunedol pdf icon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet, gan dynnu sylw at gynnydd y Cyngor ar dynnu rhestr fer o brosiectau am GronfaAdnewyddu Cymunedol y DU fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau Llywodraeth Leol erbyn 18 Mehefin.

 

Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y llywodraeth Geidwadol yn eu cyllideb y buasent yn lansio Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, sef rhagflaenydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn 2022 ac a fyddai’n cymryd lle Cronfeydd Strwythurol yr UE, y manteisiodd Casnewydd a De Ddwyrain Cymru arnynt yn y gorffennol.

 

Yr oedd hyn oll yn rhan o agenda ‘Codi’r GwastadLlywodraeth y DU, oedd yn cynnwys cronfa Codi’r Gwastad a gyflwynwyd hefyd i’r Cabinet.

 

Pwrpas y Gronfa Adnewyddu oedd cefnogi cymunedau lleol a’r economi gan ganoli ar bedair thema:

1.     Buddsoddimewn sgiliau;

2.     Buddsoddii fusnesau lleol

3.     Buddsoddimewn cymunedau a lle

4.     Cefnogipobl i mewn i waith

 

Yr oedd pwyslais hefyd ar i ymgeiswyr ddangos sut y byddai eu prosiectau yn cefnogi dad-garboneiddio a’r agenda newid hinsawdd.

 

CyhoeddoddLlywodraeth y DU y byddai 100 lle (awdurdodau lleol) ledled y DU yn cael blaenoriaeth i fynd at y Gronfa ar sail eu mynegai gwytnwch economaidd. 

 

Yn anffodus, nid oedd Casnewydd wedi ei nodi fel ardal flaenoriaeth, ond gallai ddal i gyflwyno rhestr fer o geisiadau i’r Gronfa.

 

Gallai pob awdurdod lleol gyflwyno unrhyw nifer o geisiadau hyd at £3 miliwn o werth.

 

Gallai sefydliadau o’r sectorau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, elusennau, sefydliadau nid-am-elw ac addysgol wneud cais trwy wahoddiad agored. 

 

Ym mis Ebrill, lansiodd Cyngor Casnewydd wahoddiad i sefydliadau gyflwyno eu ceisiadau erbyn 21 Mai trwy eu gwefan. 

 

Gofynnwydi ymgeiswyr nid yn unig ddangos sut y buasent yn cefnogi’r pedair thema a nodwyd ym mhrosbectws Llywodraeth y DU, ond hefyd sut y buasent yn cefnogi blaenoriaethau Casnewydd oedd wedi eu cynnwys yng Nghynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (Casnewydd yn Un), Cynllun Corfforaethol y Cyngor, Nodau Adfer Covid y Cyngor, a blaenoriaethau strategol eraill fel newid hinsawdd.

 

Arwaethaf yr amserlen fer a osodwyd gan Lywodraeth y DU i awdurdodau lleol sefydlu a gwahodd sefydliadau i ymgeisio, ac i sefydliadau gyflwyno eu ceisiadau, derbyniwyd 11 cais gwerth cyfanswm o £3.4miliwn.

 

Yr oedd y ceisiadau gan y sefydliadau oll o ansawdd uchel a gallant yn hawdd gefnogi blaenoriaethau strategol dinas Casnewydd.

 

Yr wyf i fel Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda’r Cynghorydd Hughes (Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy), Beverly Owen (Prif Weithredwr) a chynrychiolwyr partneriaid o’r  Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi asesu’r ceisiadau. Yr oedd y sgoriau ar gyfer rhoi ar y rhestr fer yn seiliedig ar feini prawf ateb y blaenoriaethau strategol cenedlaethol a lleol, y gwerth cymdeithasol a’r deilliannau fyddai o les i gymunedau ac economi Casnewydd, a sicrhau bod y  prosiectau yn cynnwys cymunedau a grwpiau o bob cwr o Gasnewydd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cronfa Lefelu i Fyny pdf icon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud y byddai’r Cabinet yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi lansio Cronfa Codi’r Gwastad gwerth £4.8 biliwn, gyda’r nod o godi’r gwastad mewn cymunedau ledled y DU. Proses fidio0 gystadleuol oedd hon ac yr oedd hyd at £20m o arian cyfalaf ar gael ar gyfer prosiectau adfywio a diwylliannol. Gallai terfynau cyllido uwch fod yn gymwys i gynlluniau trafnidiaeth, ond yn ystod y rownd fidio gyfredol, yr oedd y ffocws at gynllun adfywio.

 

Nodwyd Casnewydd fel ardal Blaenoriaeth 1, ac er bod hyn yn fantais o ran hierarchaeth anghenion, yr oedd hon yn broses gystadleuol a byddai arian yn cael ei roi yn ôl ansawdd y bid, yn hytrach na statws blaenoriaeth. 

 

Rhaid i fidiau gael cefnogaeth AS yr etholaeth, a rhaid gwario’r holl arian erbyn 2025.  Bydd nifer o rowndiau bidio, ond y terfyn amser i gyflwyno bidiau y rownd gyntaf oedd 18 Mehefin.  Gofynnwyd i’r Cabinet felly gefnogi cyflwyno bid am arian i ardal a nodwyd fel Porth y Gogledd ym Mhrif Gynllun Canol y Ddinas.

 

Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o gynllun o’r Prif Gynllun a fabwysiadwyd, ac yr oedd Porth y Gogledd yn cwmpasu’r adran o gwmpas gorsaf ganolog Casnewydd ac yn ymestyn at y Stryd Fawr, Stryd y Bont, Stryd y Doc Uchaf, a hen safle Sainsbury’s. 

 

Yr oedd nifer o brosiectau adfywio sylweddol wrthi neu ar y gweill yn ardal Porth y Gogledd. Yr oeddent yn cynnwys adnewyddu’r Farchnad Dan Do ac Arcêd y Farchnad, y cynlluniau cyffrous am egin-hwb yn yr Orsaf Wybodaeth, swyddfeydd newydd sbon ar hen safle IAC ar Stryd y Felin a phont droed teithio llesol newydd fydd yn cysylltu Devon Place a Queensway. 

 

Fel prif orsaf reilffordd yn rhoi mynediad uniongyrchol i Gaerdydd, Bryste, Llundain a thu hwnt, Gorsaf Ganolog Casnewydd yw ein porth allweddol i ganol y ddinas. 

 

Fodd bynnag, nid oedd cyfleoedd buddsoddi a’r adeiladau cyhoeddus yn yr ardal hon yr hyn y buasech yn ddisgwyl wrth gyrraedd y ddinas. Nid oedd yn rhoi i’r trigolion na’r ymwelwyr ymdeimlad o gyrraedd ac nid yw’n cyfeirio pobl i ganol y ddinas lle gallant fynd at ein busnesau, ein cyfleusterau hamdden a lletygarwch. Yr ydym am i bobl deimlo’n gadarnhaol ac wedi eu bywiogi gan yr amgylchedd lleol yn yr ardal hon, ac am i fuddsoddwyr weld yr hyn sydd gan Gasnewydd i’w gynnig.  

 

Yr oedd argraffiadau’r artist yn yr adroddiad yn dangos yr hyn sydd yn bosib, gan gyflwyno seilwaith gwyrdd y mae mawr ei angen i ardal sydd ar hyn o bryd â llawer o arwynebedd caled. Yr oedd hyn yn gyfle hefyd i ategu mentrau teithio llesol ac i gyflwyno ein hymrwymiad a osodir allan  yng Nghynnig Casnewydd, oedd yn ffurfio rhan o’r Cynllun Lles a hefyd Siarter Creu Lle Cymru.

 

Ategodd yr Arweinydd mai proses gystadleuol oedd hon ac nad oedd gwarant o lwyddiant; fe allem gyflwyno bidiau yn y rowndiau nesaf. Yr oedd yr Arweinydd yn sicr y cytunai’r Cabinet fod angen mynd ar ôl  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Adroddiad Diweddaru ar Adferiad Covid-19 pdf icon PDF 194 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan roi cyfoesiad ar ymateb y Cyngor a’i bartneriaid i argyfwng Covid-19 a chefnogi’r ddinas (trigolion a busnesau) i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol ac i fwrw ymlaen â Nodau Adfer Strategol y Cyngor a’r Cynllun Corfforaethol. 

 

Ersi’r Cabinet hwn gyfarfod ddiwethaf ym Mai, bu gostyngiadau pellach yn yr achosion o Covid-19, ac y mae hyn wedi galluogi llacio’r cyfyngiadau clo, fel bod cyrchfannau lletygarwch dan do yng Nghasnewydd wedi ail-agor.

 

DechreuoddLlywodraeth Cymru hefyd roi prawf ar ddigwyddiadau dan do ac awyr agored ledled Cymru. Yng Nghasnewydd, gallodd dilynwyr tîm peldroed Casnewydd wylio dwy gêm, tra cynhaliodd Gwesty’r Celtic Manor ddigwyddiad busnes i 100 o wahoddedigion.

 

Er bod hyn i’w groesawu, mae angen i drigolion Casnewydd barhau yn wyliadwrus a gofalus.

 

Dros yr wythnosau diwethaf, cynyddodd achosion o amrywiolyn Indiaidd Covid-19 ar draws y DU, a gwelodd Casnewydd glystyrau bychain o achosion. Er bod cyfradd yr achosion yn is o lawer nag y buont yn gynharach yn y flwyddyn, bydd yn rhaid i ni oll ddysgu byw gyda’r firws hwn, a thra bod cyfyngiadau yn dal ar waith, rhaid sicrhau ein bod yn cadw at y canllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol.

 

Dylai trigolion Casnewydd sy’n tybio fod ganddynt symptomau Covid-19 gymryd prawf a hunan-ynysu yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

 

Parhaodd y rhaglen frechu yng Nghasnewydd a Chymru i fod yn llwyddiannus, a derbyniodd dros 2 filiwn o bobl eu dos gyntaf, gyda thros 900,000 yn derbyn eu hail frechiad.

 

Rhaidcanmol gwaith Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Casnewydd Fyw, y Cyngor hwn ac eraill am eu holl waith caled yn ein hamddiffyn ni i gyd ar hyd a lled Casnewydd, ac nid oedd amheuaeth fod hyn yn cael effaith ar ledaeniad y firws. 

 

Yr oedd y rhaglen frechu yn awr yn cyrraedd poblogaeth 18 i 30 oed Casnewydd, ac yr oedd yr un mor bwysig i’r gr?p oedran hwn a’n grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig gymryd y brechiad. 

 

Osoedd gan unrhyw un amheuon neu bryderon am y brechiad, dylent gael gair â’u meddyg teulu neu fynd at wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael cyngor.     

 

Fis diwethaf, dathlodd cymuned Foslemaidd Casnewydd ddiwedd Ramadan a dathlu Eid al-Fitr.  Yr oedd yn bleser gweld y gymuned yn dathlu Eid yn ddiogel gyda theuluoedd a chyfeillion.

 

Yr oedd gwasanaethau a staff Cyngor yn dal i roi gwasanaeth i drigolion a busnesau ar draws Casnewydd, boed hyn ar y rheng flaen mewn cartrefi preswyl, yn ymweld â chleientiaid, casglu gwastraff, dysgu neu weithio o gartref neu mewn swyddfa. 

 

Bu swyddogion a phartneriaid strategol y Cyngor yn dwys ystyried sut y gallai staff a gwasanaethau ddychwelyd yn ddiogel a gweithio mewn modd mwy hyblyg er mwyn i ni adeiladu ar y newidiadau a ddigwyddodd yn ystod yr argyfwng. 

 

Fis nesaf  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Adroddiad Diweddaru Brexit pdf icon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan roi’r diweddaraf i gydweithwyr am gynnydd yn y trefniadau wedi Brexit / masnach ers 31 Rhagfyr 2020.

 

Ers yr adroddiad diwethaf i’r Cabinet ym mis Mai, parhaodd Cyngor Casnewydd i roi cefnogaeth, cyngor a chyfarwyddyd i fusnesau a thrigolion yr UE. 

 

Mae Cyngor Casnewydd a’u partneriaid yn dal i gefnogi trigolion sy’n byw yng Nghasnewydd gyda chynllun Statws Sefydlu yr UE cyn y terfyn amser ar 30 Mehefin. 

 

Lansiodd y Cyngor ymgyrch newydd wedi ei anelu at holl gymunedau’r UE yn y ddinas, i gyfeirio pobl at yr holl help a’r gefnogaeth angenrheidiol a roddir gan y Cyngor a’u partneriaid.

 

Dylai unrhyw un sydd heb wneud hynny ymgeisio, ac annog eu cyfeillion a’u teuluoedd i wneud yr un peth. 

 

Yr oedd y Cyngor yn cynnig cymorth a chyngor i bawb oedd a phryderon a/neu angen mwy o help i ymgeisio. 

 

Penderfyniad:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nodi ymateb y Cyngor i Brexit.

 

11.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tynnodd yr Arweinydd sylw at yr adroddiad misol rheolaidd ar y rhaglen waith a gofyn i’r Cabinet dderbyn y rhaglen a gyfoeswyd.