Pori cyfarfodydd

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Materion Corfforaethol

Mae'r dudalen hon un rhestru'r cyfarfodydd ar gyfer Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Materion Corfforaethol.

Gwybodaeth ynghylch Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Materion Corfforaethol


Caiff y Pwyllgor hwn ei recordio, ond ni chaiff ei ddarlledu. Mae croeso i'r cyhoedd ddod i'r cyfarfodydd yn bersonol a gellir gweld lleoliad pob cyfarfod ar ei dudalen we a'i agenda. Bydd recordiadau o gyfarfodydd y Pwyllgor yn cael eu rhoi ar y wefan cyn gynted â phosib ar y ddolen hon. Gellir gweld recordiadau cyn mis Mai 2024 yma.

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Lleoedd a Chorfforaethol

Dal y Weithrediaeth yn atebol am ei pherfformiad yn y Cyfarwyddiaethau Lleoedd a Chorfforaethol.

Tri maes bras: Perfformiad, Cyllideb a Risg

 

Monitro perfformiad, gan ganolbwyntio ar:

    Gyflawni canlyniadau a chamau gweithredu o fewn cynlluniau gwasanaeth;

    Craffu ar gynnydd mewn gwelliannau i feysydd lle mae perfformiad gwael;

    Asesu i ba raddau mae amcanion perfformiad yn cyfrannu at amcanion a blaenoriaethau cyffredinol y Cyngor;

    Asesu i ba raddau mae perfformiad yn gyson â’r strategaeth rheoli perfformiad.

 

Monitro’r Gyllideb

    Craffu ar amrywiadau yn y gyllideb;

    Asesu i ba raddau mae perfformiad yn cael ei gyflawni o fewn y gyllideb;

    Adolygu’r amcanion a chyflawni cynlluniau arbedion cytunedig.

 

Cynigion Cyllideb

    Craffu ar gynigion sy’n benodol i wasanaethau fel rhan o’r broses ymgynghori ar y gyllideb;

    Asesu effaith ddisgwyliedig y cynigion cyllideb ar wasanaethau, perfformiad, defnyddwyr gwasanaeth, partneriaethau a lefelau staffio;

    Ystyried cyfraniad y cynigion cyllideb at gyflawni blaenoriaethau ac amcanion corfforaethol;

    Ystyried y cynigion cyllideb o fewn cyd-destun cenedlaethau’r dyfodol, effaith tegwch a chydraddoldeb, cynaliadwyedd, trefniadau partneriaeth a’r agenda effeithlonrwydd;

    Ystyried i ba raddau y mae arbedion yn rhan o strategaeth gydlynol wedi’i ategu gan dystiolaeth briodol ar gyfer gwneud penderfyniadau.

 

Risg

    Monitro meysydd risg uchel ac asesu effeithiolrwydd camau gweithredu i liniaru’r risgiau hyn.

 

Hysbysu’r Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu o’i raglen waith a’i gweithredu parhaus.

Cynnal archwiliad manwl neu adolygiad o berfformiad gwasanaeth lle bo angen.

Monitro’r broses o roi ar waith unrhyw argymhellion a wneir i’r Cabinet yngl?n â pherfformiad y gwasanaeth.