Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Gwener, 8fed Ionawr, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tracy Richards , Cabinet Office Manager  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf pdf icon PDF 149 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion o 16 Rhagfyr 2020 fel rhai cywir.

 

4.

Monitor Cyllideb Refeniw pdf icon PDF 411 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd yn amlinellu cynigion am gyllideb ddrafft 2021/22.  Bu’n destun cryn waith dros y misoedd diwethaf, a llawer ohono’n cael ei wneud yng nghyd-destun heriol dim neu fawr ddim gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru na’r DU am gyllid craidd a thymor-byr cysylltiedig â Covid-19 am 2021/22, ac ansicrwydd Brexit. Derbyniodd y Cyngor fanylion y drafft o’r Grant Cynnal Incwm (GCI) yn unig ar 22 Rhagfyr 2020, ac o gofio’r ansicrwydd a grybwyllwyd uchod, wedi hynny yn unig y llwyddwyd i greu’r cynigion terfynol. Yr oedd angen mwy o waith eto, o gofio’r  setliad grant oedd yn uwch na’r disgwyl, er i lawer o waith gael ei wneud wedi’r setliad, fel bod y gyllideb ddrafft mor gynhwysfawr ag oedd modd.

 

O ganlyniad i hyn, dechreuodd yr ymgynghoriad ar y gyllideb dipyn yn hwyrach nag arfer, ond addaswyd gweddill yr amserlen i osod y gyllideb er mwyn cael cymaint o amser ag oedd modd i ymgynghori. Golygodd hyn y byddai gan drigolion, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid fel y Comisiwn tegwch annibynnol bedair wythnos lawn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Yr oedd yr ymgynghoriad  wedi dechrau, a gofynnodd yr Arweinydd i drigolion, partneriaid a phawb ymwneud yn llawn. Yr oedd wedi ymrwymo i ymwneud cynhwysfawr â hyn, gan gynnwys gyda phrosesau mewnol fel pwyllgorau craffu.

 

Fel erioed, rhestrwyd pob cynnig unigol, yn fuddsoddiadau ac yn arbedion, yn atodiadau’r adroddiad. Yr oedd arbedion yn y gyllideb fyddai’n cael effaith ar wasanaethau wedi eu cynnwys yn fanwl, ac yr oedd dolenni yn yr adroddiad i fanylion arbedion eraill y gyllideb. Yr oeddem yn ymgynghori’n benodol ar y rhai gydag effaith ar wasanaethau ac yn derbyn sylwadau a’u hystyried cyn dod i unrhyw benderfyniad terfynol ym mis Chwefror. Cytunir heddiw ar gynigion eraill na fyddant yn cael effaith ar wasanaethau, i’r Penaethiaid Gwasanaeth eu gweithredu.

 

I droi at y manylion:

 

§  Cynyddodd costau chwyddiant y swm i ychydig dros £5m y flwyddyn nesaf, ac yr oedd tua’r lefel hon bob blwyddyn, ar sail rhagdybiaethau cynllunio. Yr oedd cryn ansicrwydd am chwyddiant tâl y flwyddyn nesaf, gyda Changhellor y DU yn cyhoeddi rhewi cyflogau am flwyddyn ac eithrio i’r rhai ar y cyflogau isaf, a llywodraeth leol yn pennu eu trefniadau tâl eu hunain. Hefyd, roedd cyflogau athrawon yn cael eu pennu gan Weinidog perthnasol Llywodraeth Cymru. Gan fod hwn yn faes risg uchel i’r gyllideb, gwnaeth y Cyngor ddarpariaeth ar gyfer codiadau chwyddiant, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

§  I 2021/22 yn benodol, yr oedd y cyngor am fuddsoddi bron i £8m yn y gyllideb ddrafft yn ychwanegol i lwfans am chwyddiant tâl a phrisiau. Yr oedd mwy o fanylion am fuddsoddiadau arfaethedig yn atodiad 1, ac ymysg rhai o’r eitemau allweddol yr oedd:

 

  • £1.8m wedi ei fuddsoddi yng nghyllidebau ysgolion
  • £2.6m o fuddsoddiad yn y rhaglen gyfalaf, i hwyluso dyheadau’r Cyngor a’r Fargen Ddinesig ar gyfer y ddinas a’r rhanbarth
  • £1.5m ar gyfer y galw cynyddol am ofal cymdeithasol i wasanaethau plant ac oedolion
  • £305k o fuddsoddiad i gyflawni’r  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Monitor Cyllideb Refeniw Tachwedd pdf icon PDF 839 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd yn ymdrin â’r gyllideb refeniw fel ym mis Tachwedd 2020.  Yr oedd yn cadarnhau fod y rhagolygon diweddaraf yn dangos tanwariant o £2.7 miliwn. Y mae hyn yn gynnydd ers sefyllfa mis Medi oedd yn dangos rhagolwg am danwariant o ryw £1.7 miliwn, ac sy’n adlewyrchu sefyllfa well y rhagolygon mewn ysgolion a hefyd y galw is na’r disgwyl mewn gofal cymdeithasol i oedolion o ganlyniad i bandemig Covid-19. Yr oedd tanwariant y llinell waelod yn cynnwys £1.4 miliwn o’r gyllideb refeniw wrth gefn nad oedd ei angen ar hyn o bryd, ac yr oed dyn cyfrif am ychydig dan hanner y tanwariant. Yr oedd tanwariannau eraill yn ystod y flwyddyn yn gysylltiedig â rhai arbedion unwaith-am-byth yn y gyllideb eleni yn bennaf oherwydd cryn oedi wrth recriwtio a hefyd llawer llai o wariant amrywiol, er enghraifft, costau teithio/cynhaliaeth a chostau argraffu. Yr oedd y rhagolygon yn rhagdybio y byddai LlC yn  dal i ad-dalu a gwneud iawn am y meysydd gwario cyfredol a’r incwm a gollwyd oherwydd Covid-19. 

 

O ran materion allweddol, arbedion ar y CATC heb eu cyflawni yw’r prif fater unigol ar y gyllideb ar hyn o bryd. Cafodd Covid-19 gryn effaith ar berfformiad cyflwyno arbedion, ac er bod y sefyllfa wedi gwella ers mis Medi, yr oedd dros £1 miliwn o arbedion eto heb eu cyflawni. Byddai angen cyflwyno unrhyw arbedion nas gwnaed ar ddiwedd y flwyddyn mor fuan ag sydd modd y flwyddyn ddilynol, ond byddai hynny yn ychwanegol at unrhyw arbedion newydd am flwyddyn ariannol 2021/22.  Yn hynny o beth, er nad oedd modd osgoi hyn, fe fyddai yn achosi problemau a heriau. Gofynnodd yr Arweinydd i’r Prif Weithredwr, Penaethiaid Gwasanaeth ac Aelodau’r Cabinet i ganolbwyntio ar y rhain yn awr gymaint ag sy’n rhesymol bosib a pharhau â’r gwelliant. Y mae hyn yn cael ei wneud yn y cyd-destun mwyaf heriol, ac y mae’r Cyngor yn gwneud yr hyn a fedr i leihau pwysau at y flwyddyn nesaf.  Yn ychwanegol at hyn, y mae arall lle’r oedd pwysau ar y gyllideb oedd y galw cyson ar gyllidebau gofal cymdeithasol - plant yn enwedig - ac yr oedd gorwariant o £725 mil yn cael ei ragweld. Yr oedd y gorwariant yn cael ei leddfu gan arbedion yn erbyn meysydd eraill, rhai gwasanaeth a rhai heb fod yn wasanaethau, o bron i £3 miliwn, oedd yn dod i danwariant cyffredinol o £1.2 miliwn, sydd wedyn yn cael ei ychwanegu at y gyllideb gyffredinol wrth gefn nas gwariwyd ar hyn o bryd, sef £1.47 miliwn.

 

Er bod lefel y gorwariant oedd yn cael ei ragweld ar ysgolion yn faes pryder trwy gydol y flwyddyn, tanwariant oedd yn cael ei ragweld, fel y gwelir yn yr adroddiad.  Yr oedd y rhagolygon yn cael eu hadolygu yng ngoleuni effaith y pandemig a’r ad-daliad y byddai ysgolion yn ei dderbyn o gronfa caledi Llywodraeth Cymru a’r arian unwaith-am-byth fyddai’n cael ei dderbyn. Yr oedd yn dda nodi fod rhagolygon cyllidebau refeniw’r ysgolion wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Monitor Cyllideb Gyfalaf pdf icon PDF 164 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y Rhaglen Gyfalaf helaeth o fuddsoddi ar draws yr awdurdod mewn meysydd fel ysgolion, asedau treftadaeth, cynlluniau effeithlonrwydd ynni, rhaglenni buddsoddi i arbed, ac adfywio canol y ddinas. 

 

Mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar y buddsoddiad a gymeradwywyd eisoes gan y cabinet, gyda chais i ychwanegu £3.915 miliwn at y rhaglen er mwyn cyflwyno blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor, a’r rhan fwyaf yng nghyswllt prysuro gyda Bargen Ddinesig Dinas-Ranbarth Caerdydd( “y Fargen Ddinesig”).  Y mae hefyd yn rhoi’r rhagolygon diweddaraf am wariant ar gynlluniau eleni, a llithriad gwariant y gyllideb i’r blynyddoedd i ddod.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo £3.915 miliwn yn ychwanegol i’r rhaglen gyffredinol, yn bennaf yng nghyswllt prysuro gyda Bargen Ddinesig Dinas-Ranbarth Caerdydd. Fel aelod o’r Fargen Ddinesig, yr oedd gofyn i ni ddarparu arian cyfalaf yn ogystal â thalu am unrhyw lif arian petai’n cael ei wario cyn i arian y Trysorlys gyrraedd. Cafodd y cynllun busnes diweddaraf ei adolygu a’i gymeradwyo gan Gabinet y Fargen Ddinesig, a chymeradwywyd y prysuro. Er y byddai’r gwariant yn gyffredinol yn aros o fewn y terfynau cyllido cyffredinol y cytunwyd arnynt, bydd angen i bob cyngor yn y ddinas-ranbarth dalu am hyn yn gynt na’r disgwyl. Y cynllun gwreiddiol oedd i wariant ar y fargen ddinesig ddod i’w rhan bob blwyddyn tan 2026/27 ond byddai’r cynllun newydd yn dwyn y gwariant hwn ymlaen i ddiweddu yn 2022/23.  Byddai’r effaith refeniw felly yn ymestyn dros lawer blwyddyn, ac er y byddai hyn yn cynyddu’n raddol hyd at 2026/27, byddai’n cyflymu hyd at 2023/24, a byddai’n rhaid caniatáu am hyn yn ein cynllunio cyllidebol am y ddwy flwyddyn ariannol nesaf yn ein CATC.  Yn amlwg, mae hyn yn gyflymu uchelgeisiol ar y gwariant, a hynny dan amgylchiadau anodd, felly bydd angen cadw golwg fanwl. Mae’r tabl yn dangos y rhaglen gyfalaf yn adlewyrchu’r ychwanegiad hwn, ac yr oedd y gyllideb eleni ychydig dan £32 miliwn gyda rhaglen gyffredinol o bron i £211 miliwn.

 

O  ran monitro gwariant, cadarnhaodd yr adroddiad ei fod yn gymharol isel, sef ychydig dros £11 miliwn ar gyllid sydd fymryn dan £32 miliwn. Nid oedd y patrwm hwn yn anghyffredin, ond yn amlwg mae’n gyd-destun heriol i fwrw ymlaen â chynlluniau, sy’n arwain yn anorfod at lithriad eleni. Fel rhan o adolygu’r rhagolygon, nododd rheolwyr cyllidebau/prosiectau bron i £4.6m o lithriad yn y gyllideb, a gofynnwyd am gario hwn ymlaen i gyllidebau blynyddoedd i ddod. Yr oedd y tabl sy’n dangos y rhaglen gyfalaf yn adlewyrchu hyn, ac yr oedd y gyllideb wedyn eleni ychydig dan £32 miliwn.

 

Sylwadau’r Cabinet:

 

Tynnodd y Cynghorydd Giles sylw at y ffaith fod sôn am ysgolion yn cyd-fynd â’r sylwadau am gynigion buddsoddi, yn enwedig Ysgolion yr 21fed Ganrif a Band B yn derbyn cyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, ac er nad oedd hyn yn ddigon, yr oedd y Cyngor yn gwneud ei orau o ystyried yr holl welliannau a’r datblygiadau sy’n digwydd mewn Addysg. Y mae hyn yn adlewyrchiad da o’n hymrwymiad i drigolion Casnewydd.

 

Cytunwyd:

Fod  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Dadansoddiad Perfformiad Canol Blwyddyn 2020/21 pdf icon PDF 428 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y Dadansoddiad Perfformiad Canol Blwyddyn am chwe mis cyntaf eleni (Ebrill i Fedi).

 

Rhoddodd meysydd gwasanaeth y Cyngor ddiweddariad am gynnydd yn erbyn cyflwyno eu hamcanion a’u mesuriadau perfformiad, a gyfrannodd tuag at Nodau Adfer Strategol a Chynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys adborth ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Pobl a’r Pwyllgor Craffu Lle a Chorfforaethol yn dilyn cyflwyno’r adolygiadau canol-blwyddyn ym mis Tachwedd 2020.

 

Yn ôl yn, gwnaethom lansio ein Cynllun Corfforaethol 5-mlynedd oedd yn gosod allan ein gweledigaeth a’n nod i wella bywydau pobl yng Nghasnewydd a chyflwyno ein gwasanaethau yn well.

 

Datblygodd wyth maes gwasanaeth y Cyngor gynlluniau gwasanaeth, oedd yn amlinellu sut y byddant yn cyfrannu at gyrraedd amcanion y Cyngor a chyflwyno gwasanaethau yn well.

 

Fel gydag unrhyw gynllun, yr oedd heriau a ffactorau allanol allai gael effaith ar gyrraedd y nod.

 

Bu 2020 yn annhebyg i unrhyw flwyddyn arall a wynebwyd gennym fel Cyngor ac ar draws ein cymunedau, ac yr oedd wedi tarfu ar gyflwyno gwasanaethau, wrth i ni gyfeirio ein hymdrechion at gefnogi cymunedau ac aelwydydd bregus ac ymylol. Er hynny, dangosodd hyn gryfderau’r Cyngor gan y bu’n rhaid ymateb yn sydyn i’r heriau hyn a gweithredu ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno ein gwasanaethau.

 

I gefnogi hyn, cymeradwyodd y Cabinet bedwar Nod Adfer Strategol, Cyngor Dinas Casnewydd oedd yn cefnogi nod yr Amcanion Lles ond hefyd yn adlewyrchu’r cyfleoedd a’r heriau a ddaeth i’n rhan. 

 

Rhoddodd yr Arweinydd fanylion am gynnydd yn erbyn y pedwar Nod Adfer Strategol, gyda’r rhan fwyaf o gamau yn adrodd statws ‘Gwyrdd’ yn gyffredinol. Yr oedd y statws Oren yn arwydd o broblemau posib,  allai effeithio ar gyflwyno’r camau hyn yn llwyddiannus, a dim ond 1% o’r camau a adroddodd am statws Coch ac a oedd mewn perygl o beidio â chael eu cwblhau erbyn y dyddiad targed. Trafodwyd y mesuriadau perfformiad yn fanwl gan yr Arweinydd fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Yr oedd yr adroddiad hefyd wedi amlygu rhai o lwyddiannau a datblygiadau arwyddocaol gyda chyflwyno’r Cynllun Corfforaethol a’r Nodau Adfer Strategol. 

 

Ystyriodd y Cabinet hefyd adborth a sylwadau’r Pwyllgorau Craffu, a chroesawu’r craffu a’r adborth adeiladol a roddwyd gan Bwyllgorau Craffu Perfformiad y Cyngor ym mis Tachwedd am gyflwyno yn erbyn y cynlluniau gwasanaeth a chyd-destun ehangach argyfwng Covid. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys eu hadborth a phwyntiau allweddol a godwyd ym mhob un o’r cyfarfodydd, ac yr oedd modd mynd at gofnodion / fideos llawn y cyfarfodydd trwy wefan y Cyngor. 

 

Yn gyffredinol, yr oedd y Pwyllgorau Craffu yn deall yr heriau a wynebodd y Cyngor hwn a’i bartneriaid trwy gydol y flwyddyn, ac yr oedd y Swyddogion a’r Aelodau yn helpu Aelodau’r Pwyllgorau i ddeall a rhoi sicrwydd am gyflwyno gwasanaethau a chynlluniau.

 

Yr oedd yr Arweinydd a’r Cabinet yn derbyn yr adborth a gafwyd gan ein cydweithwyr ar y Pwyllgorau Craffu, ac anogwyd yr Aelodau Cabinet ac Uwch-Swyddogion y Cyngor i ystyried y rhain wrth gyflwyno gwasanaethau ac adroddiadau yn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - Ymgynghori pdf icon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad nesaf y Cabinet, ynghylch Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ganllawiau i gefnogi cynghorau wrth weithredu’r gofynion Perfformiad a Llywodraethiant newydd.

 

Yn y cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr 2020, cafodd y Cabinet drosolwg o’r Bil newydd  a gofynnwyd iddynt ystyried ymateb y Cyngor i sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol. 

 

Byddai’r Bil Llywodraeth Leol yn derbyn y Cydsyniad Brenhinol eleni, a bydd angen i gynghorau weithredu’r newidiadau newydd oedd yn amrywio o ddiwygio etholiadol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, sefydlu Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol, ac fel yr amlinellir yn yr adroddiad hwn, diwygio  Perfformiad a Llywodraethiant. 

 

Byddai’r Bil Llywodraeth Leol yn cymryd lle Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a than y cynigion, bydd gofyn i gynghorau wneud yr isod:

·        Cynnal hunanasesiad blynyddol o berfformiad;

·        Cynnal adolygiad o bryd i’w gilydd i roi safbwynt allanol, arbenigol ar berfformiad;

·        Rhoddodd y Bil hefyd bwerau i Archwiliwr Cyffredinol Cymru i gynnal arolygiadau arbennig; a

·        Rhoi pwerau i Weinidogion Cymru ymyrryd lle mae cynghorau yn wynebu problemau sylweddol.

 

Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae Cyngor Casnewydd wedi gwneud gwelliannau cyson o ran monitro, adrodd a chraffu ar berfformiad yn erbyn cyflwyno’r Cynllun Corfforaethol.  Yr oedd y Cyngor mewn lle da hefyd i gynhyrchu adolygiadau blynyddol o’r Cynllun Lles, y Cynllun Strategol Cydraddoldeb, y Cynllun Iaith Gymraeg, a’r Adolygiad Llywodraethiant Blynyddol.

 

Mae’r Bil hefyd yn gosod cyfrifoldebau ychwanegol ar Bwyllgorau Craffu Archwilio a Pherfformiad y Cyngor i fonitro a rhoi trosolwg o berfformiad. Byddai’n mynnu hefyd fod cynghorau yn ymwneud ac yn dwyn i mewn randdeiliaid allweddol i’w hadroddiad hunanasesu blynyddol ac adolygiadau achlysurol. 

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru (y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol) bapur ymgynghori yn gofyn barn cynghorau ar y drafft o Ganllaw Statudol fyddai’n cael ei gyhoeddi i alluogi cynghorau i weithredu’r gofynion newydd erbyn 2022.  Atodwyd ymateb drafft y Cyngor i’r ddogfen ymgynghori wrth yr adroddiad.

 

Mae’r canllaw yn rhoi trosolwg clir o’r rolau a’r cyfrifoldebau a ddisgwylir, ac yn ystyried sut y gallai’r gweithgareddau sicrwydd a’r trefniadau llywodraethiant hyn ategu’r broses yn ei chyfanrwydd, yn amodol ar y canllaw terfynol. Yr oedd y Cabinet yn croesawu’r cyfle i roi sylwadau, ac yr oedd yn dda fod y canllaw yn rhoi’r hyblygrwydd i Gynghorau am sut i gwrdd â’r gofynion newydd yn unol â’n trefniadau llywodraethiant ein hunain.

 

Gofynnwyd i’r Cabinet felly ystyried cynnwys yr adroddiad a chytuno i ymateb i’r ymgynghoriad erbyn y dyddiad cau, sef 3 Chwefror 2021.

 

 

Cytunwyd:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a chytuno i ymateb i’r ymgynghoriad erbyn y dyddiad cau, sef 3 Chwefror 2021.

 

9.

Diweddariad Ymateb ac Adferiad Covid-19 pdf icon PDF 200 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad y Cabinet yn rhoi diweddariad ar ymateb y Cyngor a’u partneriaid i argyfwng Covid-19, a chefnogi’r ddinas, yn drigolion a busnesau i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol, a chynnydd gyda Nodau Adfer Strategol y Cyngor.

 

Ers cyflwyno’r adroddiad diwethaf i’r Cabinet ym mis Rhagfyr, codwyd Cymru i gyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar oherwydd bod y straen newydd o Covid-19 yn lledaenu mewn cymunedau.  Ond yr oedd gobaith hefyd gyda chyflwyno’r rhaglen frechu ar raddfa eang y mis hwn.

 

Yn ystod y diweddariad, dywedodd yr Arweinydd fod cyfnod yr ?yl yn anodd ac yn wahanol i ni i gyd gan i’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar ddod i rym am hanner nos 20 Rhagfyr yn dilyn cadarnhad fod y straen newydd o Covid-19 wedi achosi cynnydd yn nifer yr achosion positif ledled De Ddwyrain Cymru. 

 

Unwaith eto, golygodd hyn y bu’n rhaid i fusnesau heb fod yn rhai hanfodol, campfeydd, canolfannau hamdden a lletygarwch gau, a bod yn rhaid i aelwydydd aros gartref a pheidio â pharhau â’u swigen estynedig i’r aelwyd (ac eithrio am bobl sengl ac ar ddydd Nadolig).

 

Dros y misoedd diwethaf, bu’r GIG yng Ngwent dan bwysau aruthrol wrth i fwy a mwy gael eu derbyn i’r ysbyty, a gwaetha’r modd, i lawer golli eu hanwyliaid oherwydd Covid-19.

 

Bydd y Cyngor a’u partneriaid yn dal i gefnogi cydweithwyr iechyd i oroesi’r argyfwng hwn, a hefyd i gefnogi neges Llywodraeth Cymru i aros gartref, a mynd allan yn unig i ymarfer, am fwyd ac i weithio (os oedd angen).

 

Yr oedd yn bwysig i’r holl drigolion a busnesau gydymffurfio a’r cyfyngiadau hyn a’n helpu i ddod trwy’r cyfnod anodd hwn. Mae gobaith yng nghyflwyno’r brechlynnau Pfizer ac Oxford/AstraZeneca, a bydd y Cyngor yn cefnogi Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ofalu fod cynifer ag sydd modd o drigolion Casnewydd yn cael eu brechu dros y flwyddyn.  Byddai’n broses hir, a bydd angen i drigolion fod yn amyneddgar, ond gyda’r brechlyn, bydd modd i ni yn y diwedd gwrdd eto a helpu llawer o’n busnesau i adfer.

 

Yr oedd yn bwysig fod y Cabinet yn cefnogi pobl i swyddi newydd, hyfforddiant ac ennill sgiliau newydd; yn cefnogi plant, pobl ifanc ac ysgolion gyda’u haddysg; yn lleihau anghydraddoldeb sy’n dal mewn cymdeithas i’n haelwydydd ymylol sydd ar incwm isel, a’r cymunedau BAME; ac yn ofal, yn cefnogi’r busnesau hynny i adfer ac i dyfu.    

 

Trwy gydol 2020, daliodd Cyngor Casnewydd a’n partneriaid i gyflwyno gwasanaethau, gyda swyddogion yn gwneud mwy na’r disgwyl i wneud yn si?r y gallai’r mwyaf bregus dderbyn gofal a chefnogaeth. Mae’r adroddiad yn amlygu’r gwaith sy’n dal i fynd ymlaen, yr heriau a wynebir gan y gwasanaethau, a’r hyn sy’n cael ei wneud gan Gyngor Casnewydd.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r staff, partneriaid a sectorau eraill am eu gwaith cyson wrth gyflwyno gwasanaethau, gan edrych ymlaen at 2021 gwell. Bydd cyfoesiad pellach ar gynnydd y Cyngor yn cael ei roi fis nesaf.

 

Sylwadau’r Cabinet:

 

Soniodd y Cynghorydd Truman, er y byddai hwn  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Diweddariad ar ôl Brexit pdf icon PDF 120 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad y Cabinet oedd yn rhoi’r diweddaraf am drafodaethau masnach Brexit rhwng Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd, a pharatoadau’r Cyngor am y trefniadau wedi 31 Rhagfyr. 

 

Ar 24 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd eu bod wedi cytuno ar berthynas fasnach at y dyfodol a olygai y gallai busnesau fasnachu’n rhydd o dariffau o 1 Ionawr 2021.  

 

I lawer o fusnesau yng Nghymru a Chasnewydd, mae masnachu gyda’r UE yn rhoi sicrwydd mewn cyfnod fu’n anodd iawn. Bydd yn rhaid i fusnesau o hyd gydymffurfio â’r rheolau tollau newydd, ac efallai y bydd tarfu ar gyflenwad thai nwyddau a gwasanaethau yn y tymor byr. Anogodd yr Arweinydd fusnesau yng Nghasnewydd i fynd at wefan Llywodraeth Cymru (Busnes Cymru) a gofalu eu bod yn deall y rheoliadau newydd ac yn cydymffurfio â hwy.

 

Mae Casnewydd yn ddinas sydd a hanes hir o ffurfio cysylltiadau busnes a masnach cryf gyda’r byd, gan alluogi pobl o bob cwr o’r byd ddod i fyw a gweithio yn y ddinas. Bydd yn bwysig parhau i hyrwyddo Casnewydd a rhoi cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig dyfu wrth i ni adfer o’r pandemig.

 

O 1 Ionawr 2021, byddai rheolau newydd yn dod i rym. Un o’r newidiadau mwyaf oedd diwedd symud rhydd i ddinasyddion y DU a’r UE (ac eithrio am ddinasyddion Iwerddon) a chyflwyno system fewnfudo seiliedig ar bwyntiau. Gan gadw hyn mewn cof, byddai Casnewydd yn wastad yn ddinas gynhwysol, ac y mae’n bwysig i’r holl drigolion, yn ddinasyddion y DU ac eraill, wybod fod croeso i bawb fwy a gweithio a helpu i gefnogi twf cynaliadwy y ddinas a’r rhanbarth.          

 

Yr oedd Casnewydd eisoes wedi gweld nifer fawr o bobl yn derbyn cadarnhad o’u statws sefydlu, ond bod llawer eto yn gorfod ymgeisio cyn 30 Mehefin.  Yr oedd y Cyngor a’u partneriaid amlasiantaethol wedi cefnogi ac annog trigolion yr UE i ymgeisio, a byddai hyn yn parhau hyd at ac ar ôl y terfyn amser.

 

Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad am y sefyllfa fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020 fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad:

 

·      Gan gydweithio â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid amlasiantaethol, yr oedd  Gr?p Gorchwyl a Gorffen Brexit y Cyngor a Fforwm Gwytnwch Lleol Gwent yn nodi ac yn ystyried unrhyw risgiau / problemau allweddol yn y tymor byr yn ogystal â’r tymor canol i’r tymor hir.

·      Byddaiunrhyw faterion Brexit a allai godi yn cael eu hadrodd i fecanweithiau presennol Aur Covid.

·      Yr oedd y Cyngor yn cysylltu â phob cyflenwr allweddol a darparwyr gwasanaethau, a chawsom sicrwydd y bydd cyflenwadau ar gael gyda risgiau i’r gadwyn gyflenwi wedi eu lleihau. 

·      Yr oedd tîm Cyfathrebu’r Cyngor yn anfon negeseuon yn cyfeirio busnesau at wefannau Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru.

·      Yr oedd tîm Cydlynu Cymunedol y Cyngor yn gweithio gyda’r gweithgor banciau bwyd, Gweithgor  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Dogfen Gryno PSB

Cofnodion:

Atodwyd y ddolen i Ddogfen Gryno y BGC er gwybodaeth.

 

12.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hwnoedd yr adroddiad misol rheolaidd am y rhaglen waith. 

 

Cytunwyd:

Derbyniodd y Cabinet y rhaglen a gyfoeswyd.

 

 

13.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 22 Chwefror 2021