Agenda and minutes

Cabinet - Dydd Llun, 22ain Chwefror, 2021 4.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tracy Richards , Cabinet Office Manager  E-bost: Cabinet@newport.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau dros Absenoldeb

Cofnodion:

Cynghorydd Giles

 

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf icon PDF 150 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion 8 Ionawr fel rhai cywir

 

4.

Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys pdf icon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet ar y Strategaethau Cyfalaf a Rheoli'r Trysorlys. Yr oedd y rhain eisoes wedi eu hadolygu gan Bwyllgor Archwilio’r Cyngor ac yr oedd eu sylwadau a’u hymatebion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys y Strategaethau Cyfalaf a Rheoli'r Trysorlys a oedd yn gwneud y canlynol (i) cadarnhau’r rhaglen gyfalaf, fel rhan o’r Strategaeth Gyfalaf  a (ii) y gwahanol derfynau benthyca a dangosyddion eraill oedd yn llywodraethu rheoli gweithgareddau benthyca a buddsoddi’r Cyngor, fel rhan o Strategaeth Rheoli'r Trysorlys.

 

Dywedodd yr Arweinydd, er bod y Cabinet yn gwneud penderfyniadau am yr hyn y gellid ei wario ar brosiectau cyfalaf, mai’r Cyngor llawn oedd yn cymeradwyo’r ‘terfynau benthyca’.  Yr oedd llawer o brosiectau yn cael eu cyllido gan grantiau cyfalaf, derbyniadau cyfalaf ac arian penodol wrth gefn nad oedd yn cael effaith ar lefelau benthyca, ond lle’r oedd angen benthyca, fod angen gosod y rhaglen o fewn y terfynau hynny. Yr oedd hwn yn faes pwysig o lywodraethiant rheoli ariannol oherwydd bod lefelau benthyca, unwaith iddynt gael eu gosod, yn cloi’r Cyngor i mewn i atebolrwydd tymor hir am gostau refeniw o ran darpariaeth ar gyfer ad-dalu’r benthyciadau hynny (costau MRP) a chostau llog ar fenthyciadau allanol, oedd, gyda’i gilydd, yn cael eu galw yn ‘gostau cyllido cyfalaf’.

 

Yr oedd y naill strategaeth a’r llall yn ofynion Cod Cynghorus CIPFA sy’n gosod allan y gofynion ar eu cyfer ac yn sicrhau, o fewn y fframweithiau yn y dogfennau hyn, fod y cynlluniau gwariant cyfalaf yn:

 

·        Fforddiadwy - gwariant a rhaglenni cyfalaf o fewn terfynau cynaliadwy ac y gellir gwneud lle iddynt o fewn lefelau gwario cyfredol a’r rhai a ragwelir at y dyfodol.

·        Darbodus – mae angen i Gynghorau osod terfynau benthyca a elwir yn ‘weithredol’ a ‘therfynau awdurdodedig’ sy’n adlewyrchu eu cynlluniau cyfalaf fforddiadwy a’u costau cyllido. O ran gweithgareddau buddsoddi, rhaid i Gynghorau ystyried y cydbwysedd rhwng diogelwch, hylifedd ac elw sy’n adlewyrchu eu hawch hwy am risg ond sy’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch a hylifedd dros elw. 

·        Cynaliadwy – rhaid i gynlluniau  cyfalaf  y Cyngor a chost refeniw cyllido benthyciadau/dyledion cyfredol a’r dyfodol a gymerir ar gyfer hynny fod yn gynaliadwy o ran cyllid cyffredinol y Cyngor a’i effaith ar hynny. 

 

Cafodd y materion hyn eu hadolygu a chynhwyswyd sylwadau’r Pennaeth Cyllid yn ei adran ym mharagraff 31 ymlaen. 

 

Strategaeth Trysorlys a’r rhaglen gyfalaf

Estynnodd rhaglen gyfalaf y Cyngor at 2024/25 (sef y rhaglen gyfalaf bum-mlynedd wreiddiol hyd at 2022/23 a estynnwyd o ddwy flynedd ar gyfer prosiectau yr oedd eu cwblhau yn mynd y tu hwnt i’r pum mlynedd). Yr oedd yn rhaglen gyfalaf sylweddol, ac yn cynnwys £211.4m o brosiectau a gymeradwywyd eisoes, ochr yn ochr â buddsoddiadau newydd megis y benthyca ar gyfer gwariant Dinas-Ranbarth Caerdydd o £17.3m, £19.7m ar gyfer y cynllun hamdden newydd, a £4.5m o fenthyca pellach nas ymrwymwyd ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, oedd yn dod â chyfanswm buddsoddiad o £252.9m ar gyfer y rhaglen yn diweddu 2024/25.  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cyllideb Refeniw a Chynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC): Cynigion Terfynol pdf icon PDF 358 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y Cynllun Ariannol Tymor Canol  a’r adroddiad cyllideb refeniw 2021/22. Dyma un o adroddiadau mwyaf arwyddocaol y Cyngor, ac oedd angen rhoi ystyriaeth ofalus iddo.

 

Y mae’n benllanw rhyw chwe mis o waith caled o gytuno ar ragdybiaethau’r gyllideb i fod yn sail i’n cynllunio. Wedi cytuno ar gynigion manwl y gyllideb, cafwyd cyfnod pellach o fireinio a datblygu yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y grant  cynnal incwm. Gwnaeth y Cyngor hyn dan amodau anodd, gan weithio o bell, mewn ansicrwydd mawr am ddatblygu cyllidebau yn yr amser heriol hwn. Ar y pwynt olaf hwn, yn hwyr iawn ym mis Rhagfyr y cafodd y Cyngor wybod am ei Grant Cynnal Incwm; rhyw ddeufis yn hwyrach na’r arfer, ac o edrych ymlaen, yr oedd rhagolygon cyllido’r sector cyhoeddus yn ansicr, o gofio fod cyllideb un flwyddyn wedi cymryd lle’r Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr a fwriadwyd ar gyfer 2020. Yr ydym yn aros am fwy o wybodaeth gan Ganghellor y DU am y modd y byddai’n delio â dyled gynyddol y DU  ac effaith hynny ar gyllido’r sector cyhoeddus, a bydd hyn yn cynnwys y llwybr presennol allanol o gyfnod clo cenedlaethol, a sut y bydd y DU, a gweddill y byd yn wir, yn adfer o bandemig Covid. Y mae’r sefyllfa yn dal yn fregus.

 

Ar waethaf hyn oll, fe gynhyrchwyd cyllideb, a diolchodd yr Arweinydd i’w chydweithwyr yn y Cabinet a swyddogion y Cyngor a weithiodd yn galed i gyrraedd y pwynt hwn; bu’n ymdrech enfawr gan bawb.

 

Atgoffodd yr Arweinydd, y bydd y weinyddiaeth yn cymryd penderfyniadau ar lle i wario adnoddau’r Cyngor, a rhan allweddol o hynny oedd lefel Treth y Cyngor fyddai ei angen i dalu am hynny, ynghyd â’r Grant Cynnal Incwm. Nid oedd Treth y Cyngor ond tua 24% o gyllid refeniw’r Cyngor, ond yn rhan hanfodol, er hynny. Y Cyngor llawn fyddai’n penderfynu ar Dreth y Cyngor,  a byddant yn adolygu ac yn ystyried argymhellion y Cabinet.

 

Ein cyllid

Cynyddodd Grant Cynnal Incwm y Cyngor yn sylweddol, o bron i £13m, yn bennaf oherwydd cywiriad yn yr amcangyfrifon poblogaeth a oedd yn cyfrif am ran helaeth o ddosbarthiad y grant i Gynghorau. Buom yn ymgynghori ar gynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor, a ychwanegodd £3.2m i gyllideb bosib y flwyddyn nesaf. Cynyddodd cyfanswm ein cyllideb ddrafft o £15.9m. 

 

Arbedion y gyllideb

Yr oeddem wedi cynnwys £2.7m o gynigion am arbedion newydd yn ein cyllideb ddrafft. Fodd bynnag, nid oedd y rhan fwyaf, sef £1.8m, yn effeithio ar impact on wasanaethau, ac yr oedd eu gweithredu yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau rheng-flaen i’r cyhoedd a’r ddinas. Buom yn ymgynghori ar gynigion a fyddai yn ein barn ni yn gwella gwasanaethau ac a oedd yn rhan o drawsnewid y gwasanaethau hynny yn ehangach. Byddai canlyniadau’r ymgynghori cyhoeddus yn cadarnhau hyn, gan eu bod yn cytuno’n gryf â’r cynigion ac eithrio un – y bwriad i gynyddu treth y cyngor. Yr oedd hwn yn ganlyniad cadarnhaol iawn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cyfleuster Hamdden a Lles Arfaethedig pdf icon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad. Ym mis Rhagfyr, cytunodd y Cabinet i ymgynghori â’r cyhoedd am gynigion i godi cyfleuster hamdden a lles newydd oedd yn amgylcheddol gynaliadwy ac yn ynni-effeithlon ar safle tir llwyd sy’n edrych dros Afon Wysg, gan neilltuo tir presennol Canolfan Casnewydd i Goleg Gwent  iddynt adleoli eu campws addysg bellach i ganol y ddinas.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Harvey ei bod yn glir o dros 1,000 o ymatebion a gafwyd fod y cyhoedd wedi eu cyffroi gyda’r cynlluniau ac yn ymwneud â hwy.

 

Yr oedd adeilad presennol Canolfan Casnewydd yn ddioddef nifer o broblemau strwythurol a bod angen cryn fuddsoddiad i’w ddwyn i fyny i safonau heddiw.

 

Nid oedd yr adeilad yn effeithlon na chynaliadwy ac yr oedd newidiadau yn y galw dros y degawdau yn golygu na allai bellach gystadlu â chyfleusterau modern.

 

Yr oedd y cynlluniau a roddwyd gerbron yn cynnwys pwll hamdden modern gyda chyfleusterau newid i’r teulu, ystafell ffitrwydd a gardd do / to byw. Byddai mannau ymlacio mwy anffurfiol yn y cyfleuster hefyd, a byddai wedi ei gysylltu’n ddiwnïad i rwydwaith teithio llesol fydd yn ehangu.

 

Byddai codi cyfleuster newydd nid yn unig yn gadael i ni roi gwell profiad i’r defnyddwyr, ond hefyd yn rhyddhau tir i adleoli darpariaeth addysg bellach Coleg Gwent i ganol y ddinas, yn nes at y ddarpariaeth addysg uwch sydd yno eisoes.

 

Byddai’r cynigion yn dwyn mwy o bobl i mewn i ganol y ddinas ac yn helpu i gefnogi’r siopau a’r busnesau lletygarwch i adfer o effaith Covid.

 

Byddai’r prosiect yn costio £20M, ond dim ond £4.5M fyddai’n dod o gronfeydd y cyngor, sydd yn llai o lawer na chost adnewyddu’r ganolfan bresennol.

 

Byddai rhan fawr o’r prosiect yn cael ei gyllido o arbedion effeithlonrwydd o ganlyniad i weithio mewn cyfleuster modern fyddai’n denu mwy o bobl. Yr oedd y cyngor hefyd yn ceisio buddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru trwy eu Cronfa Adfywio a Buddsoddi wedi’i Thargedu.

 

Bu’r flwyddyn a aeth heibio yn heriol iawn, ond ni roesom y gorau i weithio trwy’r pandemig i wella’r ddinas a bywydau ein trigolion, yn enwedig o ran cefnogi canol y ddinas i ddychwelyd yn gryfach.

 

Ar sail yr adborth o’r ymgynghoriad, byddai swyddogion yn awr yn gweithio gyda’r Cabinet i ddatblygu cynlluniau manwl a chyflwyno’r prosiect hwn i’n trigolion.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Nododd y Cynghorydd Mayer fod hwn yn brosiect, a’i fod wedi dychryn gyda’r niwed strwythurol i Ganolfan Casnewydd, ond yn falch ein bod mewn sefyllfa lle bydd gennym un o’r cyfleusterau hamdden gorau yng Nghymru ac o bosib yn y DU.  Yr oedd 94% o’r trigolion yn meddwl y byddai codi canolfan hamdden newydd yn syniad da, a chytunai 85% y dylai Coleg Gwent fod yn rhan o’r Chwarter Gwybodaeth.

 

Yr oedd y Cynghorydd Davies yn tybio fod lefel yr ymateb gan y trigolion yn eithriadol. Yr oedd y Cyngor yn gwrando ar y trigolion, oedd yn rhan hanfodol o’r  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Ariannu Pont Gludo pdf icon PDF 108 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad.  Yr oedd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cymeradwyo cais y Cyngor am arian i atgyweirio ac adfer y Bont Gludo yn ogystal â darparu canolfan ymwelwyr newydd ym mis Rhagfyr.  Yr oedd angen i’r Cyngor yn awr dderbyn hyn yn ffurfiol a chyflawni nifer o oblygiadau cyn i’r Gronfa Treftadaeth roi ‘caniatad i gychwyn’. Y dyfarniad o 8.65 miliwn oedd y trydydd uchaf wnaed gan y Gronfa Treftadaeth yng Nghymru.

 

Yr oedd yr adroddiad yn ceisio caniatad i roi i’r Loteri Genedlaethol warant cytunedig am y £365k o gyllid cyfatebol nas cadarnhawyd yng  nghyllideb y prosiect.  Y cyllid nas cadarnhawyd oedd arian y disgwylid ei godi dros einioes y prosiect o godi arian uniongyrchol a cheisiadau pellach am grantiau am becynnau o arian i gynnal cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Byddai’r Cyngor yn atebol am uchafswm o £365k a byddai angen hyn yn unig pe na bai ceiniog yn fwy yn cael ei godi.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant i gyflwyno’r adroddiad.

 

Yr oedd y Cynghorydd Harvey yn falch o roi gwybod am ganlyniad yr ymgynghori. Yr oedd y Bont Gludo yn rhan hanesyddol ac amlwg o Gasnewydd, a diolchodd i’r Rheolwr Diwylliant a Dysgu Parhaus am ei waith caled iawn, gan hyd yn oed oedi ei ymddeoliad er mwyn cwblhau’r prosiect.

 

Byddai cais cam 2 i Sefydliad Wolfson yn dilyn cais cam 1 llwyddiannus yn cael ei gyflwyno ddiwedd Chwefror. Cais oedd hwn am arian i helpu i gau’r bwlch presennol, nid am swm penodol.  

 

Pwyntiau allweddol

Cyflwynodd tîm y prosiect gais i Lywodraeth Cymru am becyn cefnogaeth pellach o £1.5M trwy gynllun Cefnogaeth Buddsoddi Croeso Cymru. Yr oedd swyddogion Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn mynd trwy broses diwydrwydd dyladwy ac wedi dweud fod yr arian angenrheidiol yn eu cronfa gyfalaf.  Yr oedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi datganiad i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol oedd yn rhoi digon o gefnogaeth i alluogi CTLG i wneud y dyfarniad. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddant yn rhoi gwybod am y canlyniad yn yr wythnos yn cychwyn 15 Chwefror, ond derbyniwyd nodyn ddydd Iau yn dweud na fyddai’r penderfyniad gweinidogol yn cael ei gymryd tan yr  wythnos yn cychwyn 22 Chwefror. Serch hynny, yr oedd yn bwysig bwrw ymlaen i gadarnhau hyn gyda’r gwarantwr, am ei bod yn bwysig cael caniatad am ddau reswm:

 

1.      Roedd y gwaith cyfalaf cysylltiedig ag atgyweirio’r Bont a’r ganolfan ymwelwyr newydd yn cael ei dendro, a byddai unrhyw oedi sylweddol yn debyg o gynyddu’r costau.

2.      Y dyddiad targed ar gyfer ail-agor oedd Mawrth 2023.  Yr oedd rhai trefniadau wrth gefn yn rhan o gynllun y prosiect, ond fe ddeuai cryn fudd o agor y bont ar ddechrau’r tymor.

 

Ni fyddai Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn rhoi caniatad i gychwyn hyd nes i Lywodraeth Cymru gytuno ar eu cyfran o’r cyllid.

 

Bydd y prosiect a gyllidir gan arian sylweddol o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn caniatáu gwaith trwsio ac adfer i’r  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Ariannu Pont Gludo pdf icon PDF 135 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.  Mae’r Ddyletswydd Cymdeithasol-Economaidd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn mynnu bod cyrff cyhoeddus penodol, wrth wneud penderfyniadau strategol fel pennu blaenoriaethau a gosod amcanion, yn cadw mewn cof yr angen i leihau anghydraddoldebau deilliannau o ganlyniad i anfantais cymdeithasol-economaidd.

 

Yr oedd anghydraddoldebau deilliannau yn cael eu teimlo amlycaf mewn meysydd fel iechyd, addysg, gwaith, safonau byw, cyfiawnder a diogelwch personol, a chyfranogi.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy i gyflwyno’r adroddiad.

 

Yr oedd gan Lywodraeth Cymru y pwerau i weithredu’r rhan hon o’r Ddeddf, a bwriada wneud hynny ar 31 Mawrth 2021. Bwriad y ddyletswydd oedd ategu dyletswyddau statudol eraill, nid cymryd eu lle, fel , er enghraifft, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

 

Nod cyffredinol y Ddyletswydd oedd cyflwyno gwell deilliannau i’r rhai oed dan anfantais gymdeithasol-economaidd trwy sicrhau bod y sawl oedd yn cymryd penderfyniadau strategol yn ymwneud â’r cymunedau perthnasol, yn croesawu herio a chraffu, ac yn sbarduno newid yn y ffordd mae penderfyniadau yn cael eu gwneud.

Yr oedd yr adroddiad i’r Cabinet yn cynnig camau yn y tymor byr a chanol i wreiddio’r Ddyletswydd yn effeithiol ar draws prosesau’r cyngor i wneud penderfyniadau. Yr oedd hyn yn cynnwys newid ein hasesiad effaith cydraddoldeb presennol, rhoi hyfforddiant i’r sawl sy’n cymryd penderfyniadau, ac ymgorffori mesurau priodol yn y fframweithiau sydd gennym i fonitro perfformiad.

 

Pwyntiau Allweddol

Yr oedd cysylltiadau agos rhwng y Ddyletswydd a’n Cynlluniau Strategol Cydraddoldeb a Lles, a’r cyfan yn anelu at leihau anghydraddoldeb i’n dinasyddion mwyaf bregus neu ddifreintiedig. Yr oedd hefyd yn cydnabod y tebygrwydd sy’n bodoli ar draws grwpiau sydd dan anfantais gymdeithasol-economaidd  a phobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig; er enghraifft, gwyddom fod pobl BAME a phobl anabl hefyd yn fwy tebygol o ddioddef caledi ac anawsterau ariannol.

 

Yr ydym yn cydnabod effaith anfantais gymdeithasol-economaidd ar gyfloed a bywydau pobl o ran gwaith, iechyd a chyfranogi. Byddai’r Ddyletswydd yn sicrhau ein bod yn canoli ar y bobl hynny sy’n byw mewn tlodi yng Nghasnewydd, ac yn cymryd camau i leihau’r bwlch hwn, oedd yn bwysicach nag erioed, o gofio effaith COVID-19 ar ein cymunedau.

 

Yr oedd yr adroddiad yn amlygu pwysigrwydd gwreiddio’r Ddyletswydd yn ein prosesau i wneud penderfyniadau, osgoi tocenistiaeth, a sicrhau bod ein hymwneud â’r Ddyletswydd yn ystyrlon, gyda chanlyniadau cadarnhaol.

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet fod a wnelo’r Ddyletswydd â phenderfyniadau strategol, a bod rheidrwydd ar y sawl sy’n gwneud penderfyniadau ar y lefel uchaf i gadw at hyn.

 

Anogwyd Aelodau’r Cabinet i ymgyfarwyddo â gofynion y Ddyletswydd a manteisio ar unrhyw hyfforddiant sydd yn cael ei gynnig.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Bu’r Cynghorydd Mayer yn trafod gyda’r Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy am yr adroddiad a chytunodd fod Llywodraeth Cymru yn flaengar o ran cyflwyno’r Ddyletswydd, ac edrychai ymlaen at weld hyn ar waith er mwyn gwneud yn si?r fod popeth fyddai’n cael ei wneud yng Nghasnewydd yn effeithio’n well ar y rhai difreintiedig na’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd.  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Diweddariad Adferiad Covid-19 pdf icon PDF 213 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud mai diweddariad oedd hwn ar ymateb y Cyngor a phartneriaid i argyfwng Covid-19 trwy gefnogi’r ddinas, yn fusnesau a thrigolion, i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol, a’r cynnydd gyda  Nodau Adfer Strategol y Cyngor. 

 

Aeth blwyddyn heibio ers yr adroddiad cyntaf yn y DU am achosion o Covid-19 ac wyth wythnos (20 Rhagfyr 2020) ers i Gymru fynd i’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar presennol.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf hon, gwelsom effaith Covid-19 ar ein teuluoedd, cymunedau, busnesau, ysgolion a gwasanaethau yn y ddinas. 

 

Gwaetha’r modd, rydym wedi parhau i weld colli ein hanwyliaid oherwydd Covid, ond yr ydym hefyd wedi gweld dyfeisgarwch a gwytnwch ein cymunedau i gefnogi’r trigolion mwyaf bregus.

 

Wrth ymateb ac adfer o’r argyfwng hwn, gwnaethom gadarnhau pedwar Nod Adfer Strategol sy’n sicrhau y byddwn yn ymateb i anghenion ein cymunedau a’n busnesau yn awr ac yn y dyfodol.

 

·      Nod Adfer Strategol 1 – Cefnogi Addysg a Chyflogaeth;

·      Nod Adfer Strategol 2 – Cefnogi’r Amgylchedd a’r Economi;

·      Nod Adfer Strategol 3 – Cefnogi Iechyd a Lles Dinasyddion, a

·      Nod Adfer Strategol 4 – Cefnogi Dinasyddion wedi Covid-19.

 

Ers gweithredu’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar ym mis Rhagfyr, gwelodd Casnewydd a rhanbarth ehangach y de-ddwyrain ostyngiad yng nghyfradd achosion Covid-19. 

 

Yr oeddem yn deall yr anhawster a achosodd y cyfyngiadau hyn ar fywyd normal, bod hynny yn ymweld â chyfeillion agos a theulu, plant yn mynd i’r ysgol, ymarfer yn ein campfeydd lleol, neu siopa yn y ddinas. Heb y cyfyngiadau hyn, er hynny, byddai’r gwasanaeth iechyd wedi ei chael yn anodd, a gallai llawer mwy fod wedi marw neu ddioddef effeithiau Covid a’i amrywiolion newydd.   

 

Yr oedd cyflwyno’r brechiad gan y GIG yng Ngwent a Chymru wedi bod yn rhyfeddol, gyda mwy na 600,000 o bobl yn derbyn eu brechiad cyntaf yng Nghymru.   

 

Yr oedd yr un mor bwysig yn awr ag ar ddechrau’r cyfyngiadau i ni barhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn gostwng y gyfradd achosion eto, a sicrhau y gallwn ddychwelyd i fywyd fel yr oedd.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud ei bod yn siwr fod llawer o deuluoedd gyda phlant ifanc yn falch o weld y disgyblion ieuengaf yn dychwelyd i’r ysgol o heddiw ymlaen (22 Chwefror 2021). 

 

Ers mis Rhagfyr, bu’n anodd i athrawon a rhieni gefnogi eu plant gyda dysgu gartref, ac i’r ysgolion gefnogi plant gweithwyr allweddol a’r rhai bregus.

 

Yr oedd yn bwysig i ni barhau i gefnogi ysgolion y ddinas i ddychwelyd yn ddiogel, a helpu’r plant hynny a ddioddefodd oherwydd y cyfyngiadau i ddal i fyny a gwneud iawn am unrhyw anfantais dros y flwyddyn a aeth heibio.    

 

Effeithiwyd yn sylweddol ar yr economi yng Nghasnewydd a Chymru gan gyfyngiadau Covid. Bu’r flwyddyn ddiwethaf hon yn hynod anodd i siopau a masnachwyr ar y stryd fawr, busnesau bychain a chanolig, a’r sector lletygarwch / adloniant yn gweld llawer o bobl yn colli eu swyddi. 

 

Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad hwn, bu’r Cyngor a’u partneriaid (Casnewydd Fyw) yn rhoi  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Diweddariad Brexit pdf icon PDF 146 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.  Dyma’r diweddariad i’r Cabinet ers y berthynas fasnach newydd rhwng y DU-UE ers 31 Rhagfyr 2020. 

 

Y Diweddaraf am y Trafodaethau Masnach

·      Ers adroddiad diwethaf y Cabinet (8 Ionawr 2021) yr oedd y Deyrnas Unedig yn swyddogol wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) a’r Farchnad Sengl. 

·      Yr oedd gan y DU a’r UE yn awr gytundeb masnach oedd yn galluogi masnachu rhydd o dariffau rhwng y ddwy ardal.  Fodd bynnag, roedd yn rhaid i fusnesau’r DU a’r UE gydymffurfio â rheolau tollau newydd oedd yn mynnu bod mewnforwyr ac allforwyr yn llenwi dogfennau ychwanegol.

o    Yn genedlaethol, yr oedd llawer o fusnesau wedi sôn am yr anawsterau wrth gwrdd â’r gofynion hyn, ac ambell waith, na lwyddwyd i gyflenwi nwyddau naill ai i’r DU neu’r UE. 

·      Nawr ein bod mewn perthynas newydd, mae’n bwysig fod  Cymru, Casnewydd a’r rhanbarth yn gosod ei hun mewn sefyllfa fel y gall busnesau presennol ffynnu at y dyfodol; fod entrepreneuriaid newydd, cynhenid yn cael eu cefnogi, a’n bod yn gallu hyrwyddo buddsoddiad byd-eang newydd i’r ardal.

·      Addawodd Llywodraeth y DU y byddai rhanbarthau ledled y DU gan gynnwys Casnewydd a De Ddwyrain Cymru yn derbyn buddsoddiad trwy fframweithiau newydd megis y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r drefn gymhorthdal arfaethedig. 

·      Fel gyda llawer tref a dinas yng Nghymru, yr oedd y bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn lledu, a daeth hyn yn fwyfwy amlwg yn ystod y pandemig. 

o  Gydag unrhyw arian ychwanegol mae Cymru’n dderbyn trwy’r fframweithiau newydd, rhaid i ni sicrhau bod Casnewydd yn gallu defnyddio’r buddsoddiad hwn i alluogi cymunedau nid yn unig i ‘godi’r gwastad’ ond i sicrhau eu bod yn dod yn dod yn fwy gwydn a ffynnu yn y tymor hir.           

 

·      Daeth rheolau mewnfudo newydd i rym ar 1 Ionawr a roes ddiwedd ar symud rhydd rhwng y DU ac Ewrop. 

·      Bu Casnewydd erioed yn ddinas gynhwysol a bydd yn parhau i fod felly, lle mae croeso i bobl o bob cenedl fyw, gweithio a bod yn rhan o’n cymunedau sy’n cyfrannu at dwf cynaliadwy’r ddinas.

·      I ddinasyddion yr UE, eu teuluoedd a chyfeillion sydd eisoes yn byw yng Nghasnewydd, yr oedd yn bwysig ymgeisio am Statws Sefydledig yr UE cyn y terfyn amser, 30 Mehefin. 

o    Mae gan wefannau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru yr holl wybodaeth angenrheidiol i helpu pobl i ymgeisio.

·      Yr oedd yn dda hefyd gweld sut y bu’r Cyngor a’i bartneriaid dros y pedair blynedd ddiwethaf yn gweithio gyda chymunedau’r UE i gefnogi’r mwyaf bregus a gofalu fod pobl yn gallu ymgeisio. 

·      Fel y dangosodd yr adroddiad, yr oedd llawer o ddinasyddion yr UE yn wynebu rhwystrau ac ansicrwydd am eu hawliau, a phroblemau gelyniaeth. Fel cynrychiolwyr wardiau Casnewydd, yr oedd yn bwysig i ni gefnogi ein cymunedau, a bydd swyddogion y Cyngor a phartneriaid yn codi unrhyw faterion neu bryderon.

·      Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y ffaith y bydd y DU yn galluogi dinasyddion Hong Kong i wneud cais am fisas i fyw, gweithio ac astudio  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Rhaglen Waith pdf icon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet y rhaglen waith a gyfoeswyd