Lleoliad: Cyfarfod hybrid
Cyswllt: Samantha Schanzer Cynghorydd Craffu
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Y Cynghorydd Drewett a'r Cynghorydd Townsend
|
|
Datganiadau o ddiddordeb Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2023 yn gofnod gwir a chywir. |
|
Cyllideb 2024-25 a Rhagolygon Ariannol Tymor Canolig Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Meirion Rushworth – Pennaeth Cyllid - Robert Green – Pennaeth Cynorthwyol Cyllid - Sally Ann Jenkins – Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Cymdeithasol - Mary Ryan – Pennaeth Gwasanaethau Oedolion - Natalie Poyner – Pennaeth Gwasanaethau Plant - Caroline Ryan-Phillips – Pennaeth Atal a Chynhwysiant - Mandy Shide – Rheolwr Gwasanaeth - Rhianydd Williams – Rheolwr Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd - Sarah Morgan – Prif Swyddog Addysg - Sarah Davies – Dirprwy Brif Swyddog Addysg
Cyflwynodd Pennaeth Cynorthwyol Cyllid drosolwg byr o broses y gyllideb. Pwysau a Buddsoddiadau Newydd Trafodwyd y canlynol: · Holodd y Pwyllgor am y galw yn y ddarpariaeth AAA y Tu Allan i'r Sir a Lleol a nodwyd y cynnydd o 4 lle yn Sporting Chance a Catch 22 a gofynnwyd am ragor o wybodaeth am hyn. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg wrth y Pwyllgor bod y Cyngor bellach yn cyflenwir galw cyllidebol am Addysg ac mae hyn yn edrych ar yr angen i gefnogi plant a allai orfod mynd allan o'r sir oherwydd anghenion cymhleth. Sicrhaodd y Prif Swyddog Addysg y Pwyllgor fod gwaith yn cael ei wneud i sefydlu darpariaeth leol lle bo hynny'n bosibl a bydd y contractau gyda darparwyr presennol yn cael eu cynnal wrth iddynt ddarparu tua 30 o leoedd, ond bydd hyn yn darparu 4 lle ychwanegol os bydd angen. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg wrth y Pwyllgor, pe na baent yn cael eu defnyddio, y byddai'n cael ei ystyried yn danwariant yn y Gyllideb, ond bod angen y lleoedd, a'u bod yn sicr y çânt eu defnyddio. Mae monitro cyson yn digwydd o ran pwy sydd angen lleoedd a beth sydd ar gael i ni ac wrth gontractio lleoedd ychwanegol mae gwiriadau Sicrwydd Ansawdd yn cael eu cynnal i sicrhau lles disgyblion a bod cymarebau athrawon i fyfyrwyr yn gywir.
· Holodd y Pwyllgor am y ddarpariaeth ADY ar gyfer ysgolion a nodwyd bod cyllid y llynedd i'w gadarnhau ac nad oeddem yn gallu ateb gofynion ADY a hoffai’r Pwyllgor gael sicrwydd y bydd y buddsoddiad hwn yn bodloni'r gofynion. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg wrth y Pwyllgor fod pwysau costau wedi bod o gwmpas disgyblion ADY erioed ac mae hyn wedi'i nodi yn fwy nag erioed o'r blaen. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg wrth y Pwyllgor, oherwydd rhagor o gymhlethdodau gyda phlant a phobl, nad yw'r buddsoddi hwn yn golygu y bydd o reidrwydd yn diwallu pob angen, ond mae gan ysgolion gyfrifoldeb gyda chyllidebau cyfannol i ddarparu ar gyfer pob plentyn, felly mae'r buddsoddiad hwn yn ychwanegol at gyllidebau ysgolion unigol. Dywedodd y Prif Swyddog Addysg wrth y Pwyllgor eu bod yn gwybod beth yw’r galw ar ysgolion, ac na fydd hyn o reidrwydd yn darparu popeth, ond mae'n un cam ychwanegol i gefnogi'r heriau cydnabyddedig hynny. Dywedodd y Pwyllgor ei bod yn beth da bod y buddsoddiad ychwanegol hwn ar gael i gefnogi myfyrwyr ADY.
Cymorth gofal cartref i'w gyfoethogi drwy gyfrwng technoleg gynorthwyol i leihau'r lefelau o oriau gofal sydd eu hangen.
· Holodd y Pwyllgor sut y bydd ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Casgliad Adroddiadau Pwyllgorau Following the completion of the Committee reports, the Committee will be asked to formalise its conclusions, recommendations and comments on previous items for actioning. Cofnodion: Sylwadau i'r Cabinet ar y cynigion canlynol:
a) Nododd y Pwyllgor y cynigion cyllidebol oedd yn berthnasol i’r Gyfarwyddiaeth Pobl a chytuno i anfon y cofnodion at y Cabinet fel crynodeb o’r materion a godwyd.
b) Roedd y Pwyllgor am wneud y sylwadau
canlynol i'r Cabinet ar y Cynigion ym maes y Gyfarwyddiaeth
Pobl:
Pwysau a Buddsoddiadau Newydd · Dywedodd y Pwyllgor fod y buddsoddiad ADY yn dda i fyfyrwyr ag anghenion cymhleth a bod y Pwyllgor yn falch ei fod bellach yn cael ei adlewyrchu yn y Gyllideb. Cymorth gofal cartref i'w gyfoethogi drwy gyfrwng technoleg gynorthwyol i leihau'r lefelau o oriau gofal sydd eu hangen. · Roedd y Pwyllgor eisiau sicrhau bod cefnogaeth ddigonol gan deuluoedd pan fo gofal cynorthwyol yn cael ei disodli gan ofal cynorthwyol. · Roedd y Pwyllgor eisiau sicrhau bod gwasanaethau pwysig yn cael eu darparu heb effaith ac am bwysleisio pwysigrwydd parhad darpariaeth gwasanaethau o ansawdd. Nododd y Pwyllgor eu bod yn fodlon i’r cynigion fynd yn eu blaen fel y maent. |
|
Adroddiad Cynghorydd Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: a) Camau Gweithredu Rhoddodd y Cynghorydd Craffu ddiweddariad i'r Pwyllgor ar y camau gweithredu sydd eto i’w gwneud ac mae'r ffigur ar gyfer y 1.2% o weithwyr Addysg wedi'i ddosbarthu i'r Pwyllgor. b) Blaenraglen Waith Dywedodd y Cynghorydd Craffu wrth y Pwyllgor mai dyddiad cyfarfod nesaf y Pwyllgor yw'r 20 Chwefror ar gyfer Adroddiadau’r Gwasanaethau a Reoleiddir a bod cyfarfod olaf eleni ar 26 Mawrth ar gyfer yr Adroddiadau Recriwtio a Cadw ac eitem ychwanegol a Ddeilliannau Cyfnod Allweddol 4.
|
|
Recordiad o'r Cyfarfod Cofnodion: |