Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu ar Berfformiad – Partneriaethau - Dydd Mercher, 4ydd Hydref, 2023 5.00 pm

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Canolfan Ddinesig. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Neil Barnett  Cynghorydd Craffu

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Diweddariad Monitro Gwasanaeth Rhannu Adnoddau pdf icon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

-       Dimitri Batrouni (Yr Aelod Cabinet dros Drawsnewid Sefydliadol)

-       Rhys Cornwall (Cyfarwyddwr Strategol – Trawsnewid a Chorfforaethol)

-       Tracy McKim (Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid)

-       Matt Lewis (Prif Swyddog, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir)

-       Sarah Stephens (Arweinydd Addysgol, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir)

-       Kath Beavan-Seymour (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir)

-       Dominic Gibbons (Rheolwr Prosiectau Digidol)

-       Mike Doverman (Rheolwr Cymorth i Ddefnyddwyr, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir)

-        Paul Higgs (Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Uwch Dîm Arwain – Gwasanaeth Adnoddau a Rennir)

 

Rhoddodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir a'r Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid drosolwg o'r adroddiad a chefndir i'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir.

 

Trafodwyd y canlynol:

 

·   Cododd y Pwyllgor gwestiynau ynghylch y cynnydd o ran recriwtio sefydliadau ychwanegol i'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir (GAR). Esboniodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir gynlluniau i ymgorffori grwpiau yn y GAR a thynnu sylw at ddiddordeb awdurdod yn Lloegr mewn partneriaeth â GAR.

·   Holodd y Pwyllgor am golli 27 aelod o staff yn y GAR. Esboniodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir mai'r prif reswm dros adael oedd cyflogau is o gymharu â sefydliadau eraill. Yn ogystal, roedd rhai staff yn gweld y gwaith yn rhy gymhleth.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am ddull y GAR o ymdrin â sgamiau ar-lein. Tynnodd y Prif Swyddog sylw at un mesur y maent wedi'i gymryd, sy'n cyfyngu mynediad i'r DU yn unig.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am amrywiaeth y prentisiaid a holodd am gysylltiadau prifysgol ar gyfer profiad gwaith. Rhoddodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir wybod i'r Pwyllgor am eu cydweithrediad â chynllun yng Nghaerdydd a'u hymdrechion i gyrraedd grwpiau lleiafrifol neu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

·   Holodd y Pwyllgor am gysylltu’n uniongyrchol am gymorth gan y GAR. Dywedodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir y gellir darparu'r wybodaeth hon.

·   Holodd y Pwyllgor y ffigurau mewn cronfeydd wrth gefn o’u cymharu â chyllid cyfalaf. Eglurodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir fod y rhain yn ffigurau gwahanol yn seiliedig ar gronfeydd wrth gefn refeniw a chyllid a ddarperir gan Gasnewydd.

·   Gofynnodd y Pwyllgor am nifer y prentisiaethau yng Nghasnewydd. Eglurodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir fod y cyllid ar gyfer y prentisiaethau hyn yn dod o'r GAR, a'u bod yn gweithio gyda'u holl bartneriaid, nid yn unig yng Nghasnewydd.

·   Holodd y Pwyllgor am alwadau y tu allan i oriau a chymorth TG. Eglurodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir fod y ddesg wasanaeth yn gweithredu 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac mae’r gwasanaeth y tu allan i oriau yn cael ei staffio i ymdrin â materion system hanfodol. Pwysleisiodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid bwysigrwydd gallu GAR i ddarparu cefnogaeth na all tîm TG mewnol.

·   Holodd y Pwyllgor sut mae'r GAR yn cadw’n ymwybodol o ymosodiadau seiberddiogelwch. Soniodd Prif Swyddog y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir am ddyrannu adnoddau a staff i fynd i'r afael â materion seiberddiogelwch. Amlygodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid fod gan Gyngor Casnewydd berchennog risg a  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Adroddiad Terfynol Cynllun Llesiant Casnewydd yn Un pdf icon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedigion

-       Janice Dent (Rheolwr Polisi a Phartneriaeth)

-       Dr Bethan Bowden (Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)

-       Harriet Bleach (Uwch Swyddog Cyfoeth Naturiol Cymru)

-       Wayne Tucker (Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth)

 

Rhoddodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth drosolwg o'r adroddiad, gan fynegi bodlonrwydd y Bartneriaeth â'i ganlyniadau, gan nodi casgliad llwyddiannus cynllun pum mlynedd, a thynnu sylw at gyflawniadau sylweddol y Partneriaid a'u hymrwymiad i'r bartneriaeth. Cymeradwyodd yr Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yr ymdrechion a wnaed i ymgysylltu â rhanddeiliaid a derbyniad cadarnhaol y fenter cyllidebu cyfranogiad. Fe wnaethant ganmol yn benodol y berthynas bartneriaeth wirioneddol sydd wedi'i meithrin.

 

Trafodwyd y canlynol:

 

·   Diolchodd y Pwyllgor am yr adroddiad a'i gynnwys. Fe wnaethant hefyd holi am statws y faner borffor a'i meini prawf ymgeisio. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth eu bod wrthi’n ailymgeisio am statws baner borffor ar hyn o bryd a rhoddodd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddant yn darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

·   Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y partneriaid wedi cymryd rhan mewn trafodaethau gyda diddanwyr a pherfformwyr i gasglu eu barn ar ganol y ddinas. Cydnabu'r Rheolwr Polisi a Phartneriaeth yr ymholiad hwn a soniodd y byddant yn rhoi adborth i'r partneriaid yngl?n â'r mater hwn.

·   Holodd y Pwyllgor am y mentrau a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnal i ymgysylltu ag ieuenctid a darparu cyfleoedd iddynt. Ymatebodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth drwy ddweud bod y maes gwasanaeth atal a chynhwysiant yn targedu ieuenctid yn benodol. Pwysleisiwyd bod cryn dipyn o waith yn cael ei wneud yn hyn o beth. Yn ogystal, cynigiwyd darparu gwybodaeth fanylach y tu allan i'r cyfarfod.

·   Holodd y Pwyllgor am unrhyw newidiadau posibl i'r rhestr o bartneriaid, gan gynnwys ychwanegu neu ddileu rhai. Dywedodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth wrth y Pwyllgor eu bod yn gwerthuso’u partneriaid yn barhaus. Amlygodd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid fod Casnewydd wedi blaenoriaethu mynd y tu hwnt i'r partneriaid statudol, gan wahaniaethu eu hunain oddi wrth awdurdodau eraill.

·   Cododd y Pwyllgor gwestiwn ynghylch ymrwymiad y partneriaid i ddysgu a gwella’n barhaus yn flynyddol. Ymatebodd y Rheolwr Polisi a Phartneriaeth drwy egluro bod y broses ddysgu a gwella yn dilyn dull o'r gwaelod i fyny. Pwysleisiwyd bod gwelliant parhaus yn cael ei annog a'i drin o bob agwedd ar y partneriaethau.

·   Cydnabu'r Pwyllgor arwyddocâd y gwaith amgylcheddol a fydd yn dod â manteision i Gasnewydd. Gwnaethant ddiolch i'r swyddogion am eu hymdrechion yn hyn o beth.

·   Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch a oes mesurau digonol wedi'u cymryd i liniaru perygl llifogydd yng Nghasnewydd. Ymatebodd yr Uwch Swyddog o Cyfoeth Naturiol Cymru drwy ddweud y bydd Cynllun Lles nesaf Gwent yn mynd i'r afael â newid hinsawdd, sy'n cynnwys rheoli perygl llifogydd. Fe wnaethant roi gwybod i'r Pwyllgor hefyd y bydd Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau De-ddwyrain Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag aelodau'r Pwyllgor i drafod materion perygl llifogydd y tu allan i'r cyfarfod. Gofynnodd y Pwyllgor am gyflwyno adroddiad ar berygl llifogydd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Adroddiad Cynghorydd Craffu pdf icon PDF 134 KB

a)      Forward Work Programme Update (Appendix 1)

b)      Actions Plan (Appendix 2)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddedig:

-          Neil Barnett – Ymgynghorydd Craffu

 

a) Diweddariad ar y Flaenraglen Waith

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu’r Flaenraglen Waith, a soniodd wrth y Pwyllgor am y pynciau a oedd i’w trafod yn y ddau gyfarfod pwyllgor nesaf:

 

Dydd Mawrth 10 Hydref 2023, eitemau'r agenda;

·   Cynllun Ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent 2023 - 2027

·   Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent 2022-2023

 

Dydd Mercher 8 Tachwedd 2023, eitemau'r agenda;

·   Partneriaeth Menter ar y Cyd Norse – Adolygiad Strategaeth a Pherfformiad

·   Asesiad Anghenion Strategol Drafft Casnewydd Ddiogelach

 

b)    Taflen Weithredu

 

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Craffu y daflen weithredu i'r Pwyllgor.

 

 

5.

Live meeting